Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd y lle yn prysur ddirywio os nad oedd eisoes wedi cyrraedd ei lefel isaf? Dyna 'r cwestiwn y bum am flynyddoedd yn chwilio am atebiad iddo. Cefais allan o'r diwedd mai tystion ydyw y plâsau a nodwyd o'r adfywiad fu yn y fwrdeisdref yn niwedd yr eilfed ganrif ar bymtheg, ac yn nechreu y ganrif ddilynol.

Yn awr yr wyf am fyned ymlaen i egluro achos yr adfywiad hwnnw, ac yna i ddisgrifio cwymp gobeithion Niwbwrch, yr hyn ddigwyddodd yn lled sydyn yn 1729-30.

9. ACHOS YR ADFYWIAD

Os edrychwn dros restr yr aelodau seneddol fu 'n cynrychioli Sir a Bwrdeisdref Môn, rhwng 1553. (y flwyddyn gyntaf i Beaumaris anfon aelod,) a 1730. pryd y terfynwyd y ddadl a'r ymryson fu rhwng pleidwyr Beaumaris a'r boneddigion a wneathant ymdrech cyndyn ac egniol i ail-sefydlu breintiau bwrdeisiol trigolion Niwbwrch, ceir gweled fod dylanwad teuluoedd y Bulkeleys yn oruchaf yn y Sir yn ogystal ag yn y Fwrdeisdref oedd megis yn llaw perchennog Baron Hill yn hollol.

Rhoddaf isod ychydig esiamplau i ddangos fel yr oedd llais Môn yn y Senedd yn seinio drwy un bibell. Nid ydwyf fi yn gwybod ond ychydig iawn o hanes gwleidyddiaeth y cyfnod, ac nis gallaf ddweyd pa un o'r pleidiau ym Môn oedd yn cefnogi yr egwyddor yma neu yr egwyddor arall; ond hawdd ydyw casglu fod dosbarth o fonedd yr Ynys yn erbyn i'r un teulu gael y ddwy dorth,—y sêdd Sirol a'r sêdd fwrdeisiol hefyd.

Yn 1554., dychwelwyd Syr Richard Bulkeley, Bart., dros y Sir; a Rowland Bulkeley, Ysw., dros y Fwrdeisdref. Yn 1571., yr oedd Richard Bulkeley, Ysw., dros y Sir; a William Bulkeley, Ysw., dros y Fwrdeisdref. Yn 1588., yr oedd Richard Bulkeley, Llangefni, Ysw., dros y Sir; a Thomas Bulkeley, ieu.Ysw., dros y Fwrdeisdref.