y tywod mewn parthau o'r plwyf; ond er hynny bu rhai tyddynwyr ymroddgar yn ymladd yn erbyn gwrthwynebiadau, a buont lwyddiannus i hau hadau dyrchafiad. Yr oedd y rhai hyn yn ddiwyd yn ceisio diwyllio 'r meusydd, a hau a phlannu; ond yr oedd yno ddosbarth llai gweithgar na hwynt, er hynny yr oeddynt bob amser yn ddiwyd gyda 'r gwaith o ddifa 'r cnwd.
Yn amser y Dirywiad Cyntaf cosbid y neb a dorrai fôr-hesg. Ni chai hyd yn oed ddynion cryfion waith i'w wneud, oblegid nid oedd ond ychydig iawn o drin tir; ac nid oedd derbyniad i drigolion un plwyf i blwyf arall, rhag iddynt "blwyfo" yno. Dywedais mewn pennod arall fod trigolion plwyf Llanddwyn wedi eu gyrru gan y tywod i ymsefydlu yn Niwbwrch. Yr oedd digon o angen yn y lle hwnnw eisoes; ond pan y dyblwyd y boblogaeth, aeth y sefyllfa yn un ddifrifol. Mae yn anhawdd dirnad na deall y modd yr oedd un dosbarth mawr o'r bobl yn cael eu cynhaliaeth, na deall y modd yr oedd rhai yn gallu byw yn onest am un diwrnod.
Byddai rhai yn pysgotta ychydig, neu yn casglu ynghynauaf y traethau. Clywais fod yn y cyffiniau lawer o rêdnwyddwyr (smugglers) yn niwedd y ganrif o'r blaen ac yn nechreu hon, yn gwneud bywoliaeth wrth fasnachu mewn nwyddau ar y rhai yr oedd toll uchel ond a ddygid i Gaergybi yn ddi-doll, ac felly 'n anghyfreithlon.
Yr oedd rhai hefyd yn gwningwyr medrus; ac eraill yn saethu llawer yn y gauaf pryd yr ymwelir â'r glannau hyn gan filoedd o hwyaid gwylltion. Ac os dywedwn y gwir yn ddistaw yr oedd yno lawer yn y cyfnod tywyll yn gwisgo menyg blewog.
Pa fodd bynnag yr oedd y trigolion yn gallu cadw angen draw tra'r oedd cyhoeddiad y Frenhines Elisabeth, yn gwahardd iddynt dorri môrhesg, mewn grym, mae 'n amlwg fod y gwaharddiad wedi ei ddileu, neu fod y tlodion yn y ganrif o'r blaen yn ei anwybyddu, oblegid yr oedd "creisio," neu gludo nwyddau môr