Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ennyd fechan; ni fynychid y lle ond gan ychydig o foneddigion y Sir ar ol iddynt fethu ei anrhydeddu. Clywais yr arferai Llwydiaid, Maes y Porth, gymeryd dyddordeb mawr yn Niwbwrch yn nechreu y ganrif bresennol, ac y byddai llawer o ddefodau bwrdeisiol yn cael eu cyflawni yno hyd yn oed mor ddiweddar a'r blynyddoedd hynny.

Sign Hare oedd hen blâs y Llwydiaid, ac yno ar ol troi 'r plâs i dafarn y ciniawid ac y cedwid noswaith lawen yn hwyr ar ddydd yr helfa flynyddol. Y mae 'r hen dŷ wedi ei werthu ers blynyddoedd lawer, ond y mae o hyd yn dal i fyny enw y teulu sydd wedi ymadael o'r cwmwd, os nad wedi darfod, oblegid y mae mor llwyd ei agwedd a chrymedig ei gefn ag y gall henaint ddylanwadu arno.

10. YR AIL DDADFEILIAD

Pe buasai yr hen blâsau sydd yn aros yn gallu siarad ychydig mwy, oni fuasai ganddynt stori ddyddorol i'w hadrodd am ddigwyddiadau a helyntion yr amser gynt? Ond y mae'n rhaid ymfoddloni ar olion bychain henafiaethol,—ôl blaen troed digwyddiad yn y fan yma, ac ychydig o ôl sawdl helynt yn y lle acw; a chyda thrafferth mawr y gellir dilyn ein henafiaid ar hyd llwybrau dyrys y ddeunawfed ganrif. Bu cymylau duon iawn yn taflu eu cysgodion dros lechweddau Niwbwrch hyd amser yr Adfywiad Crefyddol tua chanol neu ddiwedd y ganrif; ac yn wir, digon helbul fu yma er pob ymdrech ddaionus i ddyrchafu 'r lle yn foesol, oblegid anhawdd iawn ydyw hyd yn oed arafu olwynion dirywiad, heb son am wneud iddynt droi tuag i fyny.

Gallwn gasglu oddiwrth enwau rhai o'r hen dai eu bod ryw adeg yn dafarndai. Cydiwyd â'r plâsau, ac â'r tai mwyaf, ryw faint o dir a brynwyd, mae 'n debygol, yn ddiweddarach i ffurfio tyddynod. Yr oedd y tir yn llawer gwaelach nag ydyw yn awr, oherwydd diffyg diwylliant yn cael ei achlysuro gan ymledaeniad