o'i thu. Yr oedd Beaumaris yn gref o'i chymharu â Niwbwrch, ac yr oedd dylanwad teuluoedd mawrion yn cael ei daflu i'r clorian yn ffafr y dref flaenaf i daflu hawliau 'r olaf o'r golwg.
Ond nid oedd gan Niwbwrch dir safadwy i sefyll arno, oblegid yr oedd y ddeiseb a anfonasid oddi yno i Senedd 1 a 2 Edward VI., i ofyn am ryddhad, fel drychiolaeth yn cyfodi yn ei herbyn, ac yn allu anorchfygol o du dadleuydd y blaid wrthwynebol.
Pwy, tybed, oedd yr hen Shon ap Shon Rowland a anfonwyd i Lundain i roddi tystiolaeth ger bron y dirpwywyr Seneddol? Mae'r enw Rowland yn gwneud i mi gredu ei fod yn hen frodor, oblegid y mae 'r enw mewn llawer o deuluoedd yno hyd heddyw. Ymddengys yr hawliai Shon bleidlais yn 1698, ond erbyn 1709 yr oedd, oherwydd rhyw reswm, wedi rhoi ei fraint i fyny. Efallai mai gwerthu ei etifeddiaeth a wnaethai i rai o'r newydd-ddyfodiaid.
Pwy oedd William Bodvell? Y mae 'n debyg ei fod o wehelyth John Bodvell, Llaneugrad, yr hwn oedd yr aelod seneddol dros y Sir yn nheyrnasiad Charles I. Mae amaethdŷ ym mhlwyf Niwbwrch yn dwyn yr enw Tir Bodfel; ac y mae Lon Bodfel yn ffurfio rhan o'r terfyn rhwng Niwbwrch a'r Rhandir. Efallai mai fel perchennog yr amaethdŷ uchod yr oedd William Bodfel yn hawlio braint fwrdeisiol ynglyn a Niwbwrch. Oni bai mai hunanoldeb yn bennaf sydd yn cynhyrfu pobł i ymgeisio am seddau a llawer o swyddi, buaswn yn cynnyg pleidlais o ddiolchgarwch i William Bodvell, Ysw., a boneddigion eraill, am eu hymdrechion with geisio ail-adeiladu bwrdeisdref Niwbwrch. Heddwch i'w llwch lle bynnag y mae'n gymysgedig â llwch y monwentydd. Clywais yn ddiweddar fod coffadwriaeth i William Bodvell yn gerfiedig ar faen mewn Eglwys heb fod ymhell o Draeth Coch.
Yn fuan iawn ar ol i'r Senedd benderfynnu nad oedd gan drigolion Niwbwrch un hawl fwrdeisiol i alw eu tref yn chwaer Beaumaris, daeth cwmwl i orchuddio 'r pelydryn goleuni fu 'n sirioli 'r hen dref am