Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1 Chwefror 1727-28,-deise bodd William Bodvell yn erbyn Watkin Williams Wynne, Ysw., yr hwn a ddychwelasid mewn ymrysonfa rhyngddo ef, Mr. Bertie, a William Bodvell.

15 Chwefror 1727-28,—deise bodd cyfran o fwrdeisiaid Beaumaris, a bwrdeisiaid Niwbwrch, gan ddwyn cwynion yn erbyn Maer a Beiliaid Beaumaris oherwydd iddynt wrthod cymeryd eu pleidleisiau.

22 Ionawr 1728-29,-Deisebodd William Bodvell drachefn.

3 Chwefror 1728-29,-Anfonwyd dwy ddeiseb, un gan fwrdeisiaid Beaumaris a'r llall gan fwrdeisiaid Niwbwrch. Gorchymynwyd hwynt i ystyriaeth y dirprwywyr.

26 Ionawr 1729-30.—Gorchymynwyd i'r deisebwyr gael eu gwrando ger bron y Tŷ ar ddydd Iau, 26ain o Chwefror.

Gohiriwyd drachefn hyd 3 Mawrth 1729-30.

Ar ol i ddadleuwyr y gwahanol bartion gael eu gwrando gorchymynodd y Llefarydd iddynt ymneilltuo, ac yna aeth y Tŷ ymlaen i ystyried y tystiolaethau a'r atebion a roddwyd gan y dadleuwyr. Yna aethpwyd ymlaen i geisio dyfod i benderfyniad terfynnol.

Cynygiwyd penderfyniadau, a chynygiwyd gwelliantau ar y rhai hynny. Yn y diwedd derbynwyd y penderfyniad canlynol: "Fod yr hawl i ethol Bwrdais dros y fwrdeisdref ym Maer, beiliaid, a phrif fwrdeisiaid y ddywededig fwrdeisdref, Beaumaris, yn unig." Galwyd y dadleuwyr yn ol i'r Tŷ drachefn, a gwnaed yn hysbys iddynt benderfyniad y Tŷ. Atebodd dadleuydd y deisebwyr nad oedd gan y deisebwyr ddim tystiolaeth ychwanegol i'w chynnyg.

Dyna 'r tro olaf i achos bwrdeisiaid Niwbwrch gael ei wrando tu fewn i furiau Senedd Lloegr.

Bu 'n frwydr boeth dros ysbaid llawer o flynyddoedd; a phe buasai dyfalbarhad yn ddigon i argyhoeddi gwŷr y Senedd, cawsai Niwbwrch ei hen freintiau yn ol. Ond yr oedd galluoedd cryfion a dylanwad nerthol yn ei herbyn, ac felly cafodd ei threchu er pob ymdrech