Hughes, ymgeisydd, a maer Niwbwrch, yn 1698; ond ni alwyd arnynt i gofnodi eu pleidleisiau, oherwydd i Mr. Hughes gael ei ddychwelyd yn ddiwrthwynebiad. Atebwyd dadl yr ochr a anfonasai y ddeiseb, gan ddadleuydd yr Aelod (Mr. Bertiê). Dywedai y gwr hwnnw mai ym meddiant Maer a Bwrdeisiaid Beaumaris yn unig yr oedd yr hawl i ethol Bwrdais Seneddol. Dywedai ymhellach nad oedd Niwbwrch yn gorphoriaeth o gwbl, oblegid, er fod gan y lle hwnnw freinlen yn 17 Edward II., eto yr oedd breinlen 15 Harri VIII., yr hon a adroddai gynhwysiad y breinlenni eraill, (ac felly yr unig freinlen safadwy tra bu mewn grym), wedi ei dirymu; a chan fod y freinlen olaf wedi ei rhoddi i fyny, nid oedd pentref bychan Niwbwrch, fel y disgrifiai 'r lle, mwyach yn gorphoraeth, ac felly nid oedd y trigolion yn meddu un hawl fwrdeisiol.
Dywedodd y cyfreithiwr ymhellach fod breinlen Beaumaris, yr hon a ganiatawyd yn 42. Elizabeth, yn dweyd mai yng nghorphoriaeth Beaumaris, cynwysedig o Faer, dau feili, ac un ar hugain o brif fwrdeisiaid Beaumaris, yr oedd yr hawl i ethol Bwrdais i'w cynrychioli yn y Senedd.
Taflwyd y ddeiseb allan.
Yn y flwyddyn 1722, bu ymrysonfa arall. Mr. Bertie oedd ymgeisydd plaid Beaumaris; ond, y tro yma, William Bodvell, un o fwrdeisiaid Niwbwrch, oedd ymgeisydd y blaid arall.
Deisebodd William Bodvell yn erbyn dychweliad Mr. Bertie, gan gwyno a phrotestio yn erbyn ymddygiad anghyfreithlon Robert Coetmore Ysw., Maer Beaumaris; a Cadwalader Williams a Lancelot Bulkeley, beiliaid, yn ffafrio Mr. Bertie trwy wrthod caniattau i lawer o etholwyr o Niwbwrch (Newburgh yn y cofnodion) i bleidleisio, a thrwy drais rwystro pleidleiswyr eraill i fyned i mewn i neuadd y bwrdeisiaid.
Yn Ionawr 1723-24, anfonwyd deiseb arall i'r un pwrpas; ac un arall ar y 13eg Tachwedd 1724.