Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oeddynt gyfeillion Mr. Bertie) wrthod pleidleisiau o Niwbwrch, nid oedd yn rhyfedd i blaid Beaumaris fod yn ddigon cref i ddychwelyd Mr. Bertie. Anfonodd Syr Arthur Owen, a Mr. Meyrick y Maer, a bwrdeisiaid Niwbwrch ddeisebau i'r Senedd yn erbyn dychweliad Mr. Bertie.

Gorchymynwyd i ymchwiliad gael ei wneud i'r matter ddydd Sadwrn yr ail o Ebrill yn y flwyddyn ddilynol. (Yn Nhachwedd 1709, apwyntiwyd dirprwywyr i gymeryd dan eu hystyriaeth ddeiseb arall i'r un pwrpas a'r uchod.)

18. Chwefror 1709-10, gosododd Mr. Crompton ger bron y Tŷ adroddiad mewn perthynas i etholiad Beaumaris. Dywedai Dadleuydd y deisebwyr fod yr hawl i ethol Bwrdais dros fwrdeisdrefi Môn ym meddiant Maerod, Beiliaid, a Bwrdeisiaid Niwbwrch a Beaumaris. Cyfeiriai yn y lle cyntaf at Ddeddf 27 Harri VIII., ac hefyd at un 35 o'r un teyrnasiad. Ychwanagai y dadleuydd mai Niwbwrch oedd prif dref y Sir hyd deyrnasiad Edward VI. Cyfeiriai at y deddfau a basiwyd (1 and 2 Ed. VI.) i ryddhau Niwbwrch oddiwrth y beichiau trymion ynglyn â'i sefyllfa fel y brif dref. Y casgliad a dynnai y Dadleuydd oedd mai at drosglwyddiad i Beaumaris o Niwbwrch achosion y Sir, a dyledswyddau a gyflawnid yno fel prif dref, y cyfeiriai y deddfau a nodwyd, ac nid at un weithred o dynnu ymaith hawl bwrdeisiaid Niwbwrch i bleidleisio. Dangosid breinlen yn dwyn y dyddiad 27 Elrill, 17 Edward II. (1324.,) yr hon a brofai fod Niwbwrch yn fwrdeisdref a chorphoriaeth yr amser hwnnw.

I brofi y byddai bwrdeisiaid Niwbwrch yn arfer pleidleisio mewn etholiad Bwrdais i gynrychioli Beaumaris, galwyd ymlaen John ap John Rowland, yr hwn a dystiai ei fod yn hysbys yn arferion bwrdeisiol Niwbwrch ers 55mlynedd. Honnai y bwrdeisiaid hawl i bleidleisio ers 48 mlynedd beth bynnag, oblegid fel yr ychwanegai y tyst, aethai deg ar hugain o'r bwrdeisiaid i Beaumaris i bleidleisio o du Mr. Owen