Beth achosodd ychwanegiad cyfoeth yno? Mórwriaeth. Ond beth a dueddodd ieuenctid y lle i droi eu hwynebau tua'r môr am eu cynhaliaeth? Beth hefyd a gynorthwyodd gynifer o forwyr cyffredin i ymddyrchafu i sefyllfaoedd anrhydeddus fel meistri llongau? Pe buasai Niwbwrch yn borthladd bychan tebyg i Nefyn, neu un o borthladdoedd y Fenai, ni fuasai 'n syndod gweled y bechgyn yn dewis morwriaeth fel galwedigaeth. Y mae Aberffraw, Malltraeth, a Brynsiencyn yn nes i'r môr, ond nid ydynt enwog fel magwrfeydd morwyr. Y mae Beaumaris ar lan y môr, ond nid ydyw yn hynod am nifer y morwyr sydd yno.
Yr wyf yn meddwl y gallaf nodi yr achosion (y prif rai beth bynnag) a anfonasant fechgyn Niwbwrch i'r môr; ond peth arall, adfywiad arall ar ei ben ei hun, a'u galluogodd i ddringo i swyddi, neu a'u cymhwysodd fel cydymgeiswyr â morwyr lleoedd eraill, y rhai a ddygasid i fyny o dan fwy a gwell manteision. Addysg oedd y gallu gwerthfawr a'u harfogodd; neu oedd yr ysgol i fyny yr hon y dringasant i ben uchaf hwylbren llwyddiant. Cafodd yr hen dô cyntaf o forwyr y rhai a dueddwyd i fyned i'r môr gan amgylchiadau cyntaf yr adfywiad, farw "o flaen y mast"; ond er eu bod hwy eu hunain yn ddynion heb brofi addysg, eto hwy a aroglasant lês addysg, ac oherwydd hynny ymdrechasant i gadw eu plant mewn ysgol. Y plant hynny ydynt y meistri llongau presennol.
Yn nechreu y ganrif, tua phedwar ugain a deg o flynyddoedd yn ol, nid oedd yma fwy o forwyr nag a ellid ddisgwyl mewn unrhyw bentref heb fod ymhell o lan y môr. Yr wyf wedi methu cael enwau neb ond Owen Williams, Tyddyn plwm; Hugh Jones, Hendre' bach; a John Owen, y Llongwr; fel morwyr perthynnol i Niwbwrch cyn hynny. Yr oedd Robert Thomas (o Niwbwrch mae'n debyg), a Thomas Williams, Pendref, yn borthweision Abermenai pan suddodd yr ysgraff yn 1785. Bu William Griffith, Ty'n y goeden, (a mab Neuadd wen), os na fu Owen Rowland y llifiwr hefyd, yn gwasanaethu ar fwrdd