Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llong ryfel. Dyfodiaid i Niwbwrch oedd Richard Roberts, Dywades; Harri Ellis, ei frawd; a Thomas Hughes (bach). Morwyr y gororau oeddynt gyda dwy neu dair o eithriadau. Cymerwyd Owen Williams a Thomas Hughes yn garcharorion gan y Ffrancod, a chludwyd hwynt oddiar fwrdd eu llestri bychain i'w dwyn i garchar mewn gwlad bell.

Y mae'n rhaid i mi enwi hefyd William Williams, mab Robert Williams, Abermenai.

Digwyddodd i rywbeth nas gallaf fi fanylu arno beri i rai yn Niwbwrch brynu dwy long fechan,—un a berchenogid gan dyddynwr bychan o'r enw Owen. Hughes, Dywades; a'r llall gan John Jones, Tyddyn, yr hwn oedd wedi priodi chwaer William Williams, Abermenai. Rhoddodd John Jones ei long o dan lywyddiaeth y dywededig William Williams.

Ymhen ysbaid penodwyd John (wedi hynny Cadben Jones, Bodiorwerth,) mab hynaf John Jones, Tyddyn, i fod yn fath o oruchwyliwr (supercargo) a chynorthwywr i'w ewythr, Cadben Williams.

Ar ol i Williams dorri y cysylltiad rhyngddo a'r llong dyrchafwyd Cadben Jones i'r lywyddiaeth. Dyma ddechreuad hanes llongau Bodiorwerth.

Beth oedd yr achos i'r hen bobl a enwyd gyntaf fyned yn forwyr,—pa un a fu 'r hen longau y cyfeiriwyd atynt yn achlysuron neu achosion cymhelliadol iddynt, ai peidio-nis gallaf ddweyd. Yr oedd gan ambell un fel Dafydd Owen Shon Dafydd gwch pysgotta yn Llanddwyn, neu ym Mwlch y traeth (Genau afon Braint); ond nis gwn i a gafodd y rhai hynny effaith ar y bechgyn, ai peidio. Ond hyn sydd ffaith anwadadwy, bu llong Bodiorwerth am flynyddoedd lawer fel math o hyfforddlong yn yr hon y cafodd dros gant o fechgyn Niwbwrch eu profiad cyntaf mewn morwriaeth; ac yn y llong honno y cadarnhawyd tueddiad ugeiniau o rai na fuasent byth yn meddwl myned i'r môr am eu bywoliaeth, oni bai i ryw fath o gystadleuaeth barhaol, (neu ymrysonfa) fod rhwng y bechgyn am y penodiad cyntaf i swydd cogydd ar fwrdd llong Cadben Jones.