Pan y byddai llawer o ymryson am y lle ni oddefid i ymgeisydd a benodid, gael aros yn y llong ond dros un fordaith; a byddai yr ychydig brofiad hwnnw yn ddigon o symbyliad i beri i'r bechgyn gwrol fyned i Felinheli (Port Dinorwig) Ar ol i chwilio am le. ychydig o forio ar longau bychain trafnidiaeth y gororau, aent i Lerpwl, o'r lle y mordeithient i wledydd pell.
Ond yn gydfynedol â dylanwad llong fechan Cadben Jones, yr oedd dylanwad arall yn effeithio yn nerthol i ddwyn y chwyldroad cymdeithasol oddiamgylch, ac i ddyrchafu y safon yn Niwbwrch. Yn y flwyddyn 1808, daeth Mr. Humphrey Owen, mab i Mr. William Humphreys, Llanfaglan, i fyw i Rhyddgaer, ymhlwyf Llangeinwen. Yr oedd yn amaethwr cyfrifol, medrus, a dylanwadol. Ond nid fel amaethwr y mae a wnelwyf fi ag ef yn y fan yma. Er iddo ddal tir lawer, a phrynu amryw dyddynod mawrion yn ei ardal, er hynny yr oedd meusydd eang amaethyddiaeth yn rhy gulion i'w ysbryd mawr anturiaethus gael lle i weithio, ac am hynny gyrrwyd ef gan ei uchelgais a'i benderfyniad cryf i sefydlu canghennau diwydrwydd ym Môn ac Arfon, ac i roi symbyliad mawr a nerthol í drafnidiaeth y parthau yma o'r wlad. Adnabyddid ef fel marsiandwr a llong-berchennog o nôd.
Ymhlith yr adgofion hynny ag sydd yn fy nghymeryd yn ol, agos i hanner can mlynedd, ac yn fy nwyn mewn myfyrdod hyfryd i gwr cyfnod fy mabandod, y mae y rhai hynny a ddygant yr hen forwyr i droedio drachefn ar hyd heolydd yr hen dref, ac a daenant o flaen llygad y meddwl y darluniau, y llestri, a phethau eraill a ddygid ganddynt o wledydd pell, i harddu eu tai, i ennyn rhyfeddod y cymydogion, ac i lenwi yr ieuengctid ag awydd cryf a breuddwydion hyfryd.
Byddai darluniau o ryfel-longau mawrion, y mynyddoedd tanllyd Etna a Vesuvius, a mwy na'r cwbl darluniau Will Watch, The Bold Smuggler, a Paul Jones, The Pirate, gyda'u hagwedd fygythiol, eu hedrychiad mileinig, a'u llawddrylliau parod i danio,