Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gyrru iâs ddychrynllyd o'r sawdl i'r côryn nes gwneud i rywun deimlo yn debyg i fel y teimlai Eliphaz y Temaniad ei hun yn ei weledigaeth erchyll.

Dygid y darluniau hynny a'u cyffelyb i Niwbwrch gan forwyr a hwylient ar fwrdd y Swallow, Royal William, Hindoo, a'r Higginson, llongau cyntaf Mr. Owen, Rhyddgaer. Yr oedd yr enwau uchod yn cael eu parablu yn feunyddiol gan fabanod ar aelwydydd Niwbwrch tua deugain, a hanner can mlynedd yn ol.

Hen forwr ar fwrdd y Swallow oedd Hugh Jones, Hendre' Bach; a chydforwr iddo ef oedd Richard Roberts, o Nefyn, yr hwn a ddigwyddodd ddyfod i Niwbwrch gyda Hugh Jones, ac a briododd nith i'w wraig, sef Jane merch Owen Hughes, Dywades.

Y mae'n ddrwg genyf nas gallaf ymhelaethu ar y pen yna, oblegid pe gwnawn hynny byddai 'n rhaid i mi grybwyll am lawer o longwyr Niwbwrch pe manylwn ar gysylltiadau Mr. Owen, Rhyddgaer, â'r hen dref. Nid ydyw yr uchod ond megis awgrym bychan i ddangos y dylanwad mawr a gafodd anturiaethau masnachol y boneddwr a enwyd ar gymdeithas yn Niwbwrch trwy roddi cymhelliad mor fawr i forwriaeth yn y lle.

Parhaodd rhai o'r hen forwyr i hwylio yn llongau Mr. Owen am flynyddoedd lawer; ac ar ol i'w bechgyn mwy ffortunus enill trwyddedau meistri ac is-swyddogion cafodd amryw o honynt eu penodiad cyntaf fel swyddogion, ar longau Rhyddgaer.

Nis gallaf beidio crybwyll yn y fan yma fod un o hen forwyr Niwbwrch (y diweddaf o'r hen ddosbarth) yn parhau yn gwasanaeth Mr. Owen, Plas Penrhyn, (mab i'r boneddwr enwyd uchod) hyd heddyw. Yr wyf yn cyfeirio at John Jones, Bronrallt, yr hwn sydd dros bedwar ugain mlwydd oed. Hwn ydyw yr unig ddolen gydiol ag sydd yn cysylltu ynghyd y ddau ddosbarth o forwyr,—yr hen a'r diweddar. Mab i John Jones yw y Cadben Thomas Jones, Bronrefail, un o'r llong-feistri mwyaf llwyddiannus.