Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

haddysg, a'r modd trwy 'r hyn y galluogwyd llawer o fechgyn Niwbwrch i ddringo i'r dosbarth blaenaf o feistri. Nid fy lle i ydyw cymharu na gwrthgyferbynu yr hen ysgolion gynt â rhai mwy diweddar. Mae 'n ddiau eu bod i raddau pell yn cyfatteb i alwadau neu anghenion yr amser hwnnw; ond er mor llesol fuont i fwy nag un tô o ieuenctid yr amgylchoedd, nid oedd yr addysg mor amrywiog ag ydyw yn awr, er efallai ei fod yn llawn mor drwyadl cyn belled ag yr oedd yn myned. Ond yr oedd tuedd ymhobl yr oes o'r blaen yr un modd ag ynom ninnau yn y dyddiau hyn i redeg ar ol newydd-bethau, ac i gyfrif pob symudiad newydd yn fath o ffordd frenhinol i gyrraedd perffeithrwydd.

Tua 'r flwyddyn 1835 agorwyd Ysgol Genedlaethol Llangeinwen. Yr oedd adfywiad mawr ynglyn ag addysg yn cymeryd lle ar y pryd mewn llawer o fannau. Os nad oedd dylanwad y Gymdeithas Genedlaethol wedi cyrraedd i Sir Fôn, yr oedd ysgolfeistri yr arglwyddes Bevan yn myned ar gylch,—tair blynedd ymhob ardal,—i'r plwyfi hynny a apelient am gynhorthwy. Yn y flwyddyn 1829, penodwyd y diweddar Ganon Williams, Menaifron, i reithoriaeth Llangeinwen gyda-Llangaffo. Yn fuan ar ol ymsefydlu yn ei fywoliaeth adeiladodd y dyngarwr parchedig ysgoldy yn agos i'r Eglwys. Yn awr pan y mae cyfleusterau addysg wedi amlhau, ystyria rhai efallai mai camgymeriad oedd codi ysgol mewn lle mor anghyfleus yn ymddangosiadol, ond pan oedd plwyfi amgylchynol yr un modd a Llangeinwen heb foddion addysg, yr oedd yr hen ysgol mewn man cyfleus, ac mor hwylus i blant Niwbwrch a Llangaffo ag ydoedd i blant cyrrau pellaf plwyf Llangeinwen.

Yr ysgolfeistr cyntaf i gymeryd gofal Ysgol Genedlaethol Llangeinwen oedd y diweddar Griffith Ellis, yr hwn a gychwynodd ar eu gyrfa addysgol ugeiniau o blant Niwbwrch, Llangeinwen, Llangaffo, Llanfair-y-cwmwd a Llanidan.[1] Llenwid yr ysgol o benbwy-

  1. Mr. Robert Anthony Pierce oedd ysgolfeistr Llangeinwen rhwng 1846-57. Tua'r un cyfnod bu Mri. Joseph Griffith a Morris Jones yn cadw Ysgol Dwyran.