Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gilydd, ac yn oedd llawer yn wastadol yn disgwyl am gael derbyniad i mewn pan ddigwyddai gwagle. Ni chafwyd cynhorthwy elusen arglwyddes Bevan ond am oddeutu chwe blynedd. Ar ol hynny cymerodd Canon Williams yr holl gyfrifoldeb arno ei hun, a pharhaodd i'w chynnal a'i rheoli hyd y flwyddyn 1873, pryd y sefydlwyd Bwrdd Ysgol Llangeinwen ac y trosglwyddwyd yr hen ysgol, ynghydag Ysgol Frytanaidd Dwyran i ofal y Bwrdd.

Mae 'n ddrwg genyf ddweyd fod yr Ysgol a fu o gymaint lles fel prif ragredegydd addysg yr ardaloedd hyn wedi ei rhoddi heibio fel hen offeryn wedi colli ei ddefnyddioldeb. Mae teulu Menaifron hefyd wedi darfod; ond os ydyw defnyddioldeb a ffyddlondeb yn teilyngu gwobr y mae y teulu dyngarol yngwlad y taledigaeth, ac yn derbyn cymeradwyaeth mwy parhaol nag a all plwyfi anghofus ei roddi. Dylesid codi cofadail uwch o lawer na Thwr Marquis i goffadwraeth y teulu urddasol, elusenol, a duwiol a aberthasant gymaint er mwyn llesoli a dyrchafu y werin.

Ymhen ychydig flynyddoedd ar ol agor Ysgol Genedlaethol Llangeinwen, adeiladwyd Ysgol Frytanaidd ynghwrr pentref Dwyran. Cymerodd plant Niwbwrch fantais o'r ddwy, a rhanasant eu nawdd rhyngddynt yn lled gyfartal hyd y flwyddyn 1868, pryd yr agorwyd Ysgol Frytanaidd yn Niwbwrch. Erbyn hyn y mae yno Fwrdd Ysgol wedi ei sefydlu.

Y mae llawer yn Niwbwrch yn bresennol nad ydynt yn gwybod ond ychydig o hanes y Joseph a ddarparodd foddion addysg a fu mor effeithiol; er hynny y mae y cadbeniaid ieuaingc na fuont yn Ysgol Llangeinwen yn ddyledus i'w dylanwad, oherwydd mai yr addysg a gyfrennid ynddi a ddechreuodd yr adfywiad a ddyrchafodd y tô canol o forwyr Niwbwrch, ac a sefydlodd yn y lle y reddf gref ag sy'n gyrru 'r tô mwy diweddar i ddynwared y rhai fu 'n eu rhagflaenu, yn eu hymdrechion llwyddiannus.

Tra 'r ydwyf yn barod i roi pob clod dyledus i arddwyr yr oes yma, yr wyf yn awyddus i gadw'n