Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

loyw goffadwriaeth y rhai a barotoisant y tir; ac yr wyf yn hyf yn codi fy llais mewn diolchgarwch i'r caredigion hynny a wnaethant gymaint tuag at ddyrchafu Niwbwrch, oblegid gwn fod yno eto yn fyw ugeiniau a ymunant gyda mi yn y dymuniad-Bydded i'w coffadwriaeth barhau o hyd yn fyw.

Nid ydwyf yn gwybod ond ychydig iawn mewn perthynas i addysg Robert Hughes, Erw wen, (Cadben Hughes, Gorphwysfa). Yr wyf yn gwybod fod ei rieni yn dra awyddus am iddo ymdrechu gyda 'r moddion oedd yn ei afael i ymddyrchafu i uwch sefyllfa na'r hon yr oedd ei gyfoedion a phlant tlodion Niwbwrch ynddi yn y cyfnod tywyll hwnnw. Yr oedd Hughes pan yn fachgen bychan yn llawn diwydrwydd yn y gorchwyl o gynorthwyo ei dad yn ei waith. Pan y cyrhaeddodd oedran glaslangc efe a aeth i'r môr tua'r un adeg ag y dechreuodd ieuengctid ei ardal gymeryd gafael o ddifrif ar forwriaeth fel galwedigaeth. Ond yr oedd y nifer liosoccaf o lawer yr amser hwnnw yn myned yn forwyr heb feddwl dim am geisio manteisio ar addysg fel moddion i ddyrchafu eu hunain; ac fel y mae gresyn meddwl yr oedd llawer o honynt yn camddefnyddio peth o'u hamser a'u cyflogau, gan aberthu llawer i dduw 'r ddiod.

Nid felly yr oedd Robert Hughes; ond pan gyrhaeddai ef gartref, ac yr arosai ychydig amser, ymwisgai mewn dull gweddus, ac ymgadwai o gyfeillach dynion ieuaingc llai gofalus. Yn ei ymddygiad, yr oedd fel pe buasai 'n feistri cyn iddo gael trwydded; ac mewn llawer o bethau yr oedd yn esiampl yr hon a efelychwyd gan y dosbarth mwyaf parchus. Y mae 'n rhaid ei fod yn bwriadu dilyn llwybr Richard Davies, cyn i Ddeddf 1854 ddyfod i rym, oblegid yr oedd wedi ennill trwydded meistr yn 1856.

Efe oedd y cyntaf o forwyr Niwbwrch i gymeryd gofal llong fawr, o dan y ddeddf newydd. Cyn iddo gychwyn ar ei fordaith fel meistr yr oedd ei dad oedranus mewn pryder mawr. Yr oedd y llong yn rhwym i borthladd dieithr lle nad oedd y cadben wedi