Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y rhai a gipiwyd ymaith ym mlodau eu dyddiau, ac ym moreuddydd eu defnyddioldeb; ac yr wyf yma yn gosod costrel ddagrau fechan i ddangos fy ngalar ar ol y bechgyn hynny na chawsant ond prin droi eu hwynebau tua 'r nod ag sydd mor werthfawr yngolwg morwr o dan ddylanwad uchelgais gymedrol.

Y mae y rhestr y cyfeiriwyd atti i'w gweled yn niwedd y llyfr hwn.

14.—GWELLIANTAU

O'r llwyddiant y ceisiwyd ei ddisgrifio uchod y deilliodd llawer o welliantau. Ychwanegwyd hefyd llawer at gysuron y trigolion yn gyntaf, adeiladwyd llawer o dai newyddion y rhai yn y blynyddoedd hynny a ymddangosent fel neuaddau mewn cymhariaeth i'r hen dai tô gwellt. Y mae 'n wir fod yno, fel y sylwyd mewn tudalen arall, rai hen blâsau; ond er pob gofal dadfeilio yr oedd y rhai hynny, ac er mor ardderchog yr ymddangosent i'r hynafiaethydd yr oeddynt o ddydd i ddydd yn myned yn fwy anghymwys fel tai annedd. Mae y Sign Fawr, ers agos hanner can mlynedd wedi rhoi ei lle a'i henw i wyth neu naw o dai mwy diweddar. Nid oes neb sy fyw yn cofio yr hen neuadd drefol a safai, meddir yn agos i'r lle y saif Madryn House, ond yn fwy ar draws yr heol bresennol. Arweiniai y ffordd y pryd hwnnw heibio i ochr ddeheuol y neuadd, ac ar draws y lle agored oedd gyferbyn a'r hen Sign Fawr. O'r ychydig blâsau sydd yn aros heb eu tynnu i lawr y Plas Newydd sydd yn edrych oreu; ond y mae Sign Hare a'r Plas uchaf yn ymddangos mewn cyflwr tlodaidd, bron mor fregus a lletty gwyliwr yn y gauaf mewn gardd wâg.

Ail adeiladwyd yr House, Gorphwysfa, a thai eraill flynyddoedd lawer yn ol; ac adeiladwyd y White Lion gan John Jones, mab John Abram, Cefn Bychan, yr hwn oedd ail wr y dafarnwraig adnabyddus, Ellen Morris, Sign Hare.

O'r tai mwy diweddar na'r uchod, Bodiorwerth yw