y blaenaf o lawer, oblegid er y ceidw ei urddas o hyd fel tŷ ar ei ben ei hun mewn mwy nag un ystyr eto hanner can mlynedd yn ol ymddangosai fel Y Plas (The Place), neu y prif le yn y dreflan.
Tua thrugain mlynedd yn ol adeiladodd William Owen, Gallt y Rhedyn, bedwar o dai a gyfrifid yn rhai da y pryd hwnnw. Dilynwyd ef, neu adeiladwyd tai yr un adeg ag ef, gan John Rowland a Morris Williams, y Saer, y rhai a gawsant brydlesoedd ar leiniau a rhannau o etifeddiaeth Glynllifon. Y cyntaf o'r ddau a adeiladodd dai yn y lle safai Plas Pydewau arno; a'r olaf a gododd dai yn lle yr hen Siamber Newydd, ac ar gwrr yr Offt ymhen uchaf Heol yr Eglwys. Y mae 'n rhaid fod y tai hynny, er mor ddiaddurn oeddynt, yn ymddangos yn ardderchog o'u cymharu â'r hen dai bychain tô gwellt; ond erbyn heddyw y mae y rhai hyn etto yn gorfod plygu i'r tai da, helaeth, a chyfleus sydd wedi eu hadeiladu yn ddiweddar, y rhai sydd anedd-dai addas i'w perchenogion, neu rhyw deuluoedd o foddion cymedrol, drigo ynddynt. Nid oes yno yn awr gymaint ag un tŷ tô gwellt; ond y mae yno eto rai tai yn galw am welliantau er mwyn iechyd, cysur, a dyrchafiad moesol eu preswylwyr. Ond er mor hardd yr ymddengys llawer o'r tai a adeiladwyd yn ddiweddar os edrychir arnynt ar wahan i'w safiad, eto wrth edrych ar y dref, fel y cyfryw, y mae 'r edrychydd yn cael ei lenwi â siomedigaeth neu â digofaint oherwydd i rai niweidio y lle yn ddirfawr trwy arddangos trachwant anfaddeuol wrth grafangio ychydig lathenni o dir at y tai newyddion ar draul culhau ystrydoedd llydain yr hen dref, anurddo y trefnusrwydd a'r ymddangosiad, a thorri ar unigrwydd tawel y tai.
Pa faint bynnag o fawredd a ymddengys ynglyn â'r tai presennol gyda'u parlyrau a'u hystafelloedd helaeth; a pha mor gysurus bynnag ydyw lloriau coed a'r llawrlenni cynes a hardd, nid oes yn yr un o'r tai hynny wynebau mwy gwridgoch, llygaid mwy disglaer, camrau mwy bywiog, na chalonau mwy caredig nag