a geid gynt yn y tai bychain gyda'r lloriau pridd wedi eu haddurno brydnawn Sadwrn â thaenelliad o dywod melynaur.
Y mae gwelliant mawr hefyd wedi cymeryd lle ynglyn ag amaethyddiaeth y plwyf. Nid ydwyf am ffalsio neu awgrymu mai yma y mae'r amaethwyr goreu yn y byd; oblegid gwn o'r goreu fod yr amaethwyr yno yn ddynion call, ac fel y cyfryw casânt bob ffug ganmoliaeth, ac ymfoddlonant ar y clod dyledus, yr hyn a ddymunaf fi ei roddi iddynt hwy a'u hynafiaid.
Mae llawer o draddodiadau yn profi fod ysbryd yr hen amaethwyr gynt wedi pruddhau cymaint oherwydd i'w tiroedd gael eu gorchuddio gan drwch mawr (troedfeddi mewn mannau) o dywod gwyn gwyllt ac aflonydd a drodd ganoedd o erwau o dir bras yn anialwch anffrwythlon, fel y rhoisant o'r neilltu am flynyddoedd lawer bob ymdrech i geisio codi eu cynhaliaeth o'u tyddynod. Gwn am diroedd yno a wrthodwyd gan hen frodorion ar brydles hir ac ardrethoedd isel, oherwydd eu bod fel tywyn gwyn tywodlyd hollol ddiwerth fel tir amaethyddol. Ond ymhen amser hir dechreuodd rhai mannau mwy gwlyb ac oer na pharthau eraill "fagu croen" lle y cai ychydig ddefaid bychain borfa brin. Yna dechreuwyd cau a cheisiwyd amaethu clytiau neu leiniau bychain i godi ychydig ŷd a chloron. Mewn rhai engreifftiau, ac yn wir yn lled gyffredin, yr oedd tyddynwyr Llanddwyn a Hendre' Rhosyr yn gwningwyr ac yn gweithio a masnachu mewn nwyddau a wneid â môrhesg, ac mewn rhai amgylchiadau yr oedd rhai o honynt yn grefftwyr megis cryddion a seiri; felly rhwng pob peth yr oedd rhai yn gwneud bywoliaeth lled gysurus, ac ychydig yn casglu arian a'u galluogodd i brynu eu tyddynod, neu i gael prydles. Os oedd hi felly yn anhawdd i'r amaethwyr bychain gyda rhai manteision ymddangosiadol wneud bywoliaeth, pa mor isel oedd cyflwr yr ugeiniau tlodion hynny oedd heb dyddyn, crefft, nac unrhyw waith sefydlog! Cyn agor y gweithfeydd glo yn siroedd Fflint a Dinbych ac yn y Deheudir, yr oedd