llawer o blwyfi Môn yn methu rhoi digon a waith i'r dosbarth gweithiol oedd yn aros ynddynt yn sefydlog. Ac fel y crybwyllwyd achosodd lledaeniad y tywod or-boblogiad Niwbwrch trwy i drigolion Llanddwyn ymfudo i'r dreflan, ac felly gan nad oedd yno waith ond i gyfran fechan o'r bobl, yr oedd yn rhaid i ddosbarth mawr o ddynion cryfion ac iach, a bechgyn bywiog, ymddibynnu ar y morhesg a'r cwningod, creisio a herwhela, a gorchwylion eraill llai anrhydeddus, fel moddion i ddwyn iddynt fywoliaeth wael ac ansicr.
Cyn cau y tir cyffredin a elwir y comisoedd yr oedd rhai yn cadw ychydig ddefaid yn y tywyn, y lle hefyd yr oedd morhesg yn tyfu ac ychydig gwningod yn "daearu"; ond ar ol i'r tir hwnnw gael ei werthu i'r rhydd-ddeiliaid gwasgwyd teuluoedd tlodion i gongl gul iawn. Yr oedd hen rydd ddeiliaid Niwbwrch yn goddef llawer, os nad oeddynt yn eu calonau yn cydymdeimlo â'u cydblwyfolion llai ffortunus. Ond pan y deuai deiliad dieithr i'r plwyf nid oedd hwnnw yn deall nac yn cydnabod hen arferion, nac yn cymeradwyo noddi tlodion digynhaliaeth. Un tro yr oedd un o'r newydd-ddyfodiaid hyn yn barottach i wylied ei glwt comin nag i ddysgu hen drefniadau Niwbwrch. Byddai 'n cael ei flino oherwydd fod rhyw dlodion yn aflonyddu ychydig ar ei gwningod a hawliai oherwydd eu bod yn tyllu yn ei gomin. Yr oedd yr amaethwr hwn yn elyn creulon i Shon Huw Tomos Prisiart Befan, yr hwn oedd i gael ei saethu ganddo y munud cyntaf y gwelai ef yn agos i'r Clwt Melyn. Pan glywodd mam Shon hynny hi a gymerth ei thympan a'i thelyn, ac a ganodd,
"Mae yma ryw langc ifangc
Yn dwrdio saethu Shôn,
Am iddo ddal cwningen,
Am hyn chwi glywsoch sôn;
Ond gwylied iddo 'i saethu,
Y bore na 'r prydnawn,
Daw mab i Jones y Twrnai
I alw arno i mewn."