Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r amseroedd yn ymladd yn erbyn pob diwygiad, gwelliant, ac anturiaeth.

Yr oedd yr hen erydr gweiniaid a ddefnyddid gan yr hen amaethwyr, a'r ceffylau bychain teneuon a gedwid ganddynt, yn hollol anaddas i'r drefn newydd o amaethu; a chan fod y pethau felly yr oedd yr amaethwyr hynny wedi dwyn y tir a'r drefn o amaethu i lefel y cynorthwyon yn eu meddiant, gan berswadio eu hunain fod aredig ysgafn a bâs yn fwy addas i dir y rhan yma o'r wlad nag aredig trwm. Ác hefyd gan y byddai aredig ysgafn yn cynhyrchu cnydau ysgafn, yr oedd hynny drachefn yn achosi i'r gwrtaith a arferid fod yn wael a phrin.

Dechreuodd Morris Jones gyda phorthi meirch ieuaingc, nes gwneud dau neu dri ohonynt yn gryfach na llawer o rai bychain hen a theneu. Yna arddodd ei dir mor ddwfn nes dychrynu yr hen amaethwyr o'i gwmpas. Ac i wneud ei gynllun yn fwy effeithiol efe a soddodd ugeiniau o bunnau mewn gwrtaith a hadyd da. Ac wrth wneud daioni iddo ei hun yr oedd yn ffynhonnell lles mawr i Niwbwrch, nid yn unig fel esiampl i'w ddilyn gan amaethwyr, ond hefyd rhoddai y pris uwchaf am wrtaith i'r bobl hynny a gymerent y parseli degwm ac a gadwent wartheg ac anifeiliaid eraill yn y dreflan.

Yr oedd y tir gynt, a elwir yn awr Caeaubrychion, yn rosdir teneu ac oer, heb un atdyniad i hudo neb o drigolion Niwbwrch i'w gymeryd a'i amaethu. Daeth Morris Jones yma o Landwrog, ac adeiladodd dŷ a beudai i fod yn drigfan iddo ei hun, ac yn ganolfan i gaeau gwasgarog neu anghysylltiol. Ond cyfnewidiodd lawer gyda'i gymydogion nes gwneud y lle yn un o'r ffermydd hwylusaf, twtiaf, a mwyaf cryno yn y fro.

Y mae Robert T. Jones, ei fab a'i olynydd, a'r deiliad presennol, yn olynydd teilwng i dad diwyd, gofalus, a llwyddiannus.

Y mae 'n bleser mawr i mi ddwyn tystiolaeth i lwyddiant meibion ac wyrion yr hen amaethwyr a