Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llafurwyr gynt. Er gwaethaf pob anfantais, rhenti uchel, a phrisiau isel, y mae tyddynwyr Niwbwrch ar y cyfan yn llawn cystal allan a thyddynwyr bychain unrhyw blwyf arall yn Ynys Môn.

15.—CYMERIAD A NODWEDDION Y TRIGOLION

Wrth i ni chwilio i nodweddion pobl ni raid i ni ysbio i gymeriad personau unigol. Nid wrth syllu ar arwynebedd Sir Fôn y deuir i wybod fod Cymru yn wlad fynyddig; ac felly yn gyffelyb nid wrth ymgydnabyddu â'r godreuon neu ag ychydig o'r trigolion y ceir allan gymeriad pobl Niwbwrch. Y mae 'n rhaid astudio eu hanes yn y gorphennol, a chydmaru yr hanes hwnnw â'r hyn a welwn ac a glywn yn awr, cyn dyfod i benderfyniad ynghylch eu cymeriad; oblegid nid yw yr hyn dybiwn ni yn nodweddion, bob amser yn dangos cymeriad. Nid wrth edrych ar yr ymddangosiad allanol y cawn wybod beth sydd o'r tu mewn. Gwyddom am y ddiareb sy'n gwrthgyferbynu y golomen â'i thŷ. Yr arferiad gynt yn Niwbwrch oedd pentyrru tomenau tail o flaen drysau'r tai; a chan fod tai a beudai llawer o dyddynod yn sefyll ynghanol y pentref, yr oedd y tomenau aml yn peri i ddieithriaid ddyfod i'r penderfyniad mai tebyg oedd tu fewn i'r tŷ i'r hyn yr ymddangosai y tu allan. Ond byth ar ol Sasiwn 1856, pan ddaeth yr holl Sir ac ardaloedd yr ochr arall i'r Fenai i gydnabyddiaeth agos â'r lle rhoddir cymeriad uchel i'r bobl oherwydd eu glanweithdra.

Y maent wedi cael eu camfarnu mewn perthynas i lawer o bethau. Nid oes bobl yn y byd mwy gwresog eu teimladau, na rhai mwy parod i gymeryd eu cynhyrfu. Crybwyllais mewn man arall am y rhan fywiog gymerodd Niwbwrch yn yr Adfywiad Methodistaidd cyntaf. Bydd cynhyrfiadau mawrion yno ynglyn a phob etholiad. Ac y mae yno bob amser ryw ddosbarth yn barod i danio powdr ar yr achos lleiaf. Ond y mae y galon gymdeithasol wresog, a'r teimladau bywiog yn dangos eu hunain yn aml mewn