gweithredoedd da. Y mae zel pobl Niwbwrch yn ddiarebol ynglŷn ag allanolion crefydd. Nid oes neb, llawer llai ysgrifenydd y llinellau hyn, yn alluog i feirniadu eu duwioldeb. Ni fu neb o ddyddiau Solomon hyd yn awr yn offrymu yn fwy ewyllysgar a haelionus tuag at harddu eu haddoldai a hwyluso moddion crefyddol i gyfatteb i anghenion yr oes.
Y maent yn bobl ddiwyd iawn. Nid oes bentref gwledig arall yn Ynys Môn lle y mae cymaint o ennill arian. Y mae y gangen diwydrwydd a gedwir i fyny yn Niwbwrch, ond yr hon a gyfrifir yn ddirmygus gan bobl ddieithr i'w phwysigrwydd, yn werthfawr i amaethwyr. Yr oedd yn werthfawr iawn pryd yr oedd yn brif foddion i gadw y trigolion rhag newynu pan oedd gwaith yn brin ymhob man. Ac heblaw hynny y mae diwydrwydd y rhieni a'u plant gyda'r gwaith môrhesg wedi helpu llawer o'r bechgyn i ddringo i alwedigaeth uwch.
Er gwaethaf ambell ffrwgwd, y mae rheffynau teuluaidd a chylymau cymydogaeth dda yn eu rhwymo mor agos i'w gilydd fel nad diogel ydyw i neb ymwthio ac ymyrru a'u hachosion. Y mae y teimlad tylwythol (clannishness) yn gryf yn eu plith. Ymae pob un am ei deulu yn gyntaf; yna y mae am ei dylwyth ; ac yna am Niwbwrch a'r holl drigolion; ac wedyn am Sir Fôn tu hwnt i bob Sir.
Nid oes dan haul werin mwy anibynnol na thrigolion Niwbwrch. Dywedir fod rhai teuluoedd yno yn uchel a balch o genhedlaeth i genhedlaeth. Nid ydwyf yn amheu hynny; ac yr wyf yn sicr fod teuluoedd felly wedi dylanwadu er daioni mewn lle mor werinol, a lle yr oedd ei drigolion pan o dan ddylanwad eu nwydau yn gwneud gormod o arddangosiadau heb fod yn unol a rheolau manwl gweddeidd-dra cymdeithasol. Ond o dan y wisg allanol o draha a balchder tybiedig y mae calon caredigrwydd yn curo, a dyben da o dan y gair garw.
Byddaf fi yn meddwl mai o un o nodweddion goreu yr hen fwrdeisiaid gynt y tarddodd yr anibyniaeth crybwylledig, a'r hyn sydd o hyd er gwaethaf