amgylchiadau gwrthwynebus cyfnod hir dadfeilad yr hen dreflan yn blodeuo yn ymarweddiad moesol uchel rhai o'r teuluoedd.
Tua chanol y ganrif ddiweddaf aeth Duc o Bedford, Arglwydd Raglaw y Werddon, ar ymweliad i Glynllifon lle y trigai ei gyfaill Syr John Wynn, un o hynafiaid yr Anrhydeddus Frederick Wynn.
Pan yn cychwyn tua 'r Werddon, aeth Syr John a gosgorddlu i hebrwng y Duc dros Abermenai a thrwy Niwbwrch i gyfeiriad Caergybi.
Gwelsant lawer o drigolion Niwbwrch yn nrysau eu tai yn "gweithio matiau". Ar ol eu myned trwy y dreflan datganodd y Duc ei syndod oherwydd na ddaethai y trigolion ar ei oli ofyn elusen ganddo, fel yr arferid mewn pentrefi gwledig pan elai gwr mawr a'i osgordd drwodd. Ond olynwyr tlodion ond diwyd yr hen fwrdeisiaid oedd y rhai a gymerent cyn lleied o sylw o deithwyr dieithr, a rhai a gyfranogent o ysbryd anibynnol eu tadau gynt. Y mae llawer o ddisgynyddion y bobl hynny yn aros yn Niwbwrch hyd y dydd hwn.
16. MODDION CREFYDDOL YN 1895
Ni chaf ond braidd eu henwi, oblegid pe bawn yn manylu gyda dim ond y defnyddiau yn fy meddiant, rhedai yr hanes hwn ymhell dros ei derfynnau rhagosodedig.
Yr Eglwys Sefydledig: Gan mai fel hynafiaethydd yr wyf yn bennaf yn gosod yr hanes yma ger bron y darllennydd, yr wyf yn dechreu gyda'r Eglwys am mai hi oedd yr unig gyssegr yma trwy'r holl oesoedd o amser y tadau eglwysig cyntaf hyd ddyddiau y tadau. Methodistaidd yn niwedd y ganrif o'r blaen. Pe gallai cerrig muriau yr Hen Eglwys hon siarad yn fwy eglur nag y maent, a phe buasai yn bosibl i ni gael y stori hir o'r digwyddiadau a'r cyfnewidiadau, dydd a nos, haf a gauaf crefydd Niwbwrch a amlygwyd ynglŷn â gwasanaethau crefyddol yr Eglwys hon yn ddidor am o ddeuddeg i bymtheg cant o flynyddoedd, caem