Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gipolwg go lew ar hanes yr Eglwys Fawr Gristionogol er dyddiau y Seintiau Cymreig. Ond os oes llawer o bethau yn ein hadgoffa o'r cyfnewidiadau sydd wedi bod ynglŷn â hyd yn oed Cristionogaeth yn ei harferion, defodau, a seremoniau allanol, y mae muriau cysegredig hen Eglwys Niwbwrch y rhai sydd wedi sefyll i fyny am ganrifoedd lawer, yn gwneud i mi feddwl am anghyfnewidioldeb y Drefn Ddwyfol. Peth digon priodol ydyw harddu tyrau Seion; ond prydferth iawn yngolwg yr hynafiaethydd ydyw y muriau diaddurn (ond â mwsogl canrifoedd), y rhai a dystiant pa mor sylweddol nerthol a gonest oedd gwaith y seintiau ac mor fawr ac amlwg oedd eu hymroddiad a chywirdeb eu crefydd; yn gyffelyb i fel y datgan y mynyddoedd nerth a chadernid y Goruchaf. Mae'r enw cyntefig—Llanamo-megis yn dweyd fod yr Eglwys ar y cyntaf wedi ei chysegru i ryw hen sant neu santes Gymreig na wn i ddim o'i hanes.

Ond y mae 'r enwau St. Petr a St. Mair, yn awgrymu y cyfnewidiad a ddaeth dros Gymru yn y cyfnod pryd yr ymwthiodd Pabyddiaeth i anurddo symlrwydd yr Eglwys Gymreig. Bu llawer brwydr galed rhwng y Cymry a'r esgobion Seisnig a thramor yn nyddiau y tywysogion Cymreig; ond pan estynodd y brenhinoedd Seisnig eu gwialen oresgynol dros ein gwlad, cafodd y Babaeth nerth y wladwriaeth o'i thu, ac am gyfnod bu 'r Eglwys Gymreig o dan draed y gallu Rhufetnig.

Goresgynwyd Lloegr gan y Normaniaid y rhai fuont yn arglwyddiaethu am ganrifoedd; ond gorchfygwyd yr arglwyddi hynny yn y diwedd gan ymledaeniad y teimladau Seisnig a lefeinient gymdeithas. Yn gyffelyb, daeth teuluoedd Seisnig, megis Salsbri, Puleston, Middleton, Robinson, ac ugeiniau eraill, yn Gymry mwy gwladgarol na llawer o'r brodorion. Gyda 'r goresgyniad Seisnig ymdaenodd Pabyddiaeth fel mantell ddu dros Gymru am gyfnod hir; ond yn amser y Diwygiad Protestanaidd, ymlidiwyd hi o'r wlad gan y diwygwyr y rhai a drefnasant yr Eglwys yn