Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lloegr a Chymru o newydd yn ol cynllun esgobaethol yr hen Eglwys Gymreig a hwy a'i gosodasant ar sylfaen y Ffydd a bregethwyd yma lawer o oesoedd cyn dyfodiad Awstin Fynach.

Y mae 'n debyg na chedwid cofnodion eglwysig yn gyffredinol a rheolaidd, yn enwedig yn y plwyfi gwledig ac anghysbell, cyn y Diwygiad; ond os gwneid y maent wedi colli, neu eu rhoddi o'n gafael. Dyma y rheswm paham na cheir rhestr o'r hen offeiriaid plwyfol yn y mwyafrif o blwyfi, ond y rhai o amser y Diwygiad.

Cyfeiriais o'r blaen at adgyweiriadau a wnaed yn Eglwys Niwbwrch yn 1850-1, ac at y meini coffadwriaethol a ddarganfuwyd yno ac a ddygwyd i sylw y cyhoedd trwy ymdrechion y Parch W. Wynn Williams, Menaifron. Cefais achlysur i ymhelaethu ychydig ar un o'r meini hynny ag sy'n dwyn yr argraff canlynol, ond ni chrybwyllais yn y fan honno ond am enw Edward Barker yn unig. Fel hyn y mae'r argraff ag sy'n aros heb ei niweidio: + HIC: JACET: D: BARKER: CV AIE P'PICIET : D

Hynny yw, "Hic jacet Ed(wardus) Barker Cu(jus) a(n)i(m)e pr(o)piciet(ur) De...

Cyfeiriais o'r blaen hefyd at garreg oedd wedi ei gosod yn y mur deheuol tu fewn ac uwchben un o ffenestri corph yr Eglwys (St. Petr), ac arni yr argraff canlynol C: HIC: JACET: ELLENA: QUONDAM : UXOR : EDWARD.

O dan fwa ym mur deheuol y Gangell, gyferbyn ag un cyffelyb yn y mur gogleddol o dan yr hwn y mae maen-côf Edward Barker, y mae maen arall yr hwn a roddodd lawer iawn o drafferth i'r hynafiaethydd clodfawr uchod cyn y gallodd ddeongli yr argraff. maen hwn y mae delw llawn faint o uchelwr Eglwysig yn dal cwpan cymun rhwng ei ddwylaw ac yn orphwysedig ar ei ddwyfron. Ar yr ymylon ac o amgylch i'r llun y mae'r argraff canlynol: + HIC: JACET: DNS: MATHEVS AP: ELYAS CAPELLANUS BEATE: MARIE : .V: AVE MARIA: HA: NOVO(?)BERI: QVIQVE: CES.