Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ychwanegiadau mawrion a chostfawr, mewn ystafelloedd ac adeiladau angenrheidiol wedi eu gwneud drwy ymdrechion lleol. Mae'r capel hardd a'r cyfleusterau ynglŷn ag ef yn profi fod Methodistiaid Niwbwrch wedi bod yn dra haelionus tuag at y gwaith o berffeithio cyfleusterau eu hachos crefyddol, ac felly wedi cyfrannu yn deilwng o'r cyfoeth â'r hwn y bendithiwyd hwy yn yr adfywiad cymdeithasol diweddar.

Nid ydwyf fi yn ddigon hyddysg yn hanes y Corph i wneud sylwadau mwy trwyadl ar yr amrywiol bethau ynglŷn ag ef fel Cyfundeb, nae ynglŷn â chapelau neilltuol, a fuasent efallai yn ddyddorol i rai darllenwyr; am hynny nid oes genyf ond annog y cyfryw i ddarllen "Methodistiaeth Cymru," a "Methodistiaeth Môn," neu chwilio i ffynhonellau eraill, am ychwaneg o fanylion. Ceir hanes am flaenoriaid ac enwogion y Cyfundeb yn y llyfrau enwyd, ond gwell genyf fi fuasai hanes helyntion y werin.

Ymhlith yr hen wyr crefyddol fu'n cadw'r drws ac yn ddefnyddiol yn y cylchoedd bychain yr oedd Moses, Tan y Graig, Owen Gribwr, a William Paul. Yr oedd Catrin Roberts, Cae'r ychen, yn dân i gyd; a'r hen Agnes mor ffyddlon a zelog a phe buasai wedi ei geni yn Galilea. Nid oedd crefydd y rhai hyn ac eraill yn amlyccach mewn dim nag yn eu zêl dros gysegredigrwydd y Tŷ yr hyn a amlygid yn aml yn y gosb a weinyddent ar blant direidus am redeg yn ol ac ymlaen i fyny ac i lawr y grisiau. Ffafriwyd fi gan Owen Lewis y Saer, trwy iddo barottoi y rhestr ganlynol o flaenoriaid y Corph yn Niwbwrch o'r dechreu hyd yn awr. Bu amryw yn enwog fel hyrwyddwyr yr achos Methodistaidd yn y lle cyn penodi John Hughes y blaenor cyntaf. Ond efallai nad oedd Shôn Dafydd, Shôn Shôn Dafydd, Owen Jones, ac eraill,—gwyr yr oes gyntaf,-yn flaenoriaid yn yr ystyr gyffredin. Beth bynnag am hynny, nid oeddynt yn ddim llai dylanwadol na 'u holynwyr.

Blaenoriaid: John Hughes, Rallt, Llangaffo; William Hughes, Hên Dŷ, Dwyran; Thomas Williams, Pwll yr