hwyaid, Llangeinwen; Hugh Evans, y Saer, Niwbwrch; Robert Jones, Gwning-gaer, Do.; David Roberts, Maes y ceirchdir, Do.; Hugh Williams, Frondeg, Do. ; Escu Davies, Shop, Do.; Robert Hughes, Tyddyn pwrpas, Do.; Richard Jones, Tŷ'n y coed, Do.; W. Iorwerth Jones, Bodiorwerth, Do.; (Voel Ferry Stores); Owen Lewis, y Saer, Do.; William Roberts, Maes y ceirchdir, Do.; R. P. Jones, Draper, Do.; Hugh Evans, Masnachydd, Chapel St. Do.; Hugh Hughes, Saer maen, Bryn goleu, Do.
Capel y Wesleyaid:— Cylchdaith Caergybi; adeiladwyd yn 1804. Blaenoriaid,—Hugh Williams, Gwehydd, Dwyran; Hugh Roberts, Erw wen. Hen ffyddloniaid oes fwy diweddar,—James Lloyd, a Daniel Hughes.
Capel y Bedyddwyr:— Adeiladwyd yn 1851. Blaenoriaid, Samuel Davies, John Davies, Thomas Williams, Owen Owens.
Capel yr Anibynwyr:— Adeiladwyd yn 1864. Blaenoriaid, Joseph Roberts, Ty'n Rallt; Escu Davies; Robert Jones.
17.—MODDION ADDYSG
Sefydlwyd Ysgol Frytanaidd (yr hon sydd yn awr o dan Fwrdd Ysgol) yn 1868. Mae 'r ysgol hon mewn cyflwr rhagorol ymhob ystyr. Bwrdd Ysgol Y Parch W. Jones, Tyddyn pwrpas; Meistri. R. P. Jones, Draper; Owen Jeffreys Jones, Ty Lawr; Josiah Hughes, Ty'n y goeden; Owen Lewis, Saer. Ysgrifenydd: Hugh Evans.
Prif Athraw,—Mr. D. Pryse Jones, L.T.S.C. (Licentiate and Member of Council of Tonic Solfa College.)
Is-athrawesau,—Misses Roberts, Griffiths, Jones, Roberts. Gwniadyddes,—Miss Parry.