18.—LLEOEDD HYNOD YN Y PLWYF
Abermenai: Penrhyn bychan tywodlyd gyferbyn a'r Belan. Yr oedd gynt yn Borth mewn cymundeb â Chaernarfon. Ysgraff y borth yma a gariai lawer o gynhyrchion amaethyddol Môn i'r farchnad yn y dref honno. Ar y 5ed. o Ragfyr, 1785, dydd Ffair y Gauaf, suddodd yr ysgraff a boddodd yn holl deithwyr (54) ond un,—Hugh Williams, Ty'n Llwyden, ger Aberffraw, yr hwn a rwymodd ei hun ar rwyf a hwylbren ac a gyrhaeddodd y lan yn fyw ar oror Tal y Foel. Ymhlith yr anffodusion yr oedd y deunaw a enwir o Niwbwrch:—William Jones, Gwning-gaer, a Mary ei ferch; Griffith Griffith, Neuadd wen; Robert Thomas, porthwas; Thomas Williams, porthwas, Pendref; Y Parch. M. Pughe, curad, ac Anne ei wraig; Mary Evans, morwyn Abermenai; Margaret. merch Hugh W. Jones; Elizabeth, gwraig William Dafydd, Ty'n Rallt; Jane Owen, gwraig Thomas Prichard; Jane Abram, Ty Lawr; Richard Isaac, Sign Fawr; Margaret Hughes, gweddw; Richard a Mary, mab a merch William Thomas, Plâs; Mary, gwraig Owen Shôn Dafydd; John, mab Thomas Shôn Morgan; Mary Williams, morwyn Pendref.
Cyfyngwyd yr enw Abermenai i'r hen dŷ a'r Borth y cyfeiriwyd ati, ond y mae 'n debyg fod yr hen Abermenai oesoedd yn ol yn golygu yr holl gulfor rhwng Tal y Foel a Chaernarfon a'r Belan. Cyn i'r tywod ffurfio traeth Abermenai a'r banciau gyferbyn a Thal y Foel, yr oedd yma angorfa fawr a chyfleus i lyngesoedd o longau ac ysgraffau. Fel hyn y dywedir yn "Hanes Gruffydd ap Cynan": "Ac yna ydd (yr) oedd Gruffudd yn Abermenai nid amgen y porthloedd (porthleoedd) a ddywedpwyd uchod."
Etto:—"Ac wrth hyn ynteu a ymchoelws (ymchoelodd) parth ac wlat gan rwyaw (rwygaw) dyfnforoedd a deg llong ar hugeint llawn o wyddyl a gwyr Denmarc, ac yn Abermenei y disgynent." Ac etto:-"Yno hefyd ydd oedd Angharat frenhines ei wreic briawt