Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynteu ac iddi hi y rhoddes ynteu hanner ei dda a dwy randir, a phorthloedd (porthleoedd) Abermenei."

Gwelir fod Abermenai yr hynafiaid yn cynnwys mwy nag un borth. Abermenai ddiweddar oedd un, a'r lleill efallai oeddynt Gaerynarfon a Thal y Foel. Yr oedd yn rhaid cael angorfa eang i gynnwys "deg llong ar hugeint," (30 vessels).

Bryniau: Amaethdŷ ar gopa craig ddifyr i'r gogledd o'r pentref. Cynhwysai'r etifeddiaeth gynt amryw dyddynod,—megis Tan Lan, Cerrig Mawr, Cefn Mawruchaf, Caeaugwynion. Mae côf-lêch yn yr Eglwys ac arni yn gerfiedig enwau tri o offeiriaid,-Y Parchn. Rowland Lloyd, Lewis Hughes, a Rowland Hughes y rhai oeddynt berchenogion olynol etifeddiaeth y Bryniau. Lewis Hughes oedd y perchennog yn amser Rowlands yr hynafiaethydd. Dywedodd Richard Jones, Tyddyn pwrpas, wrthyf mai Huwsiaid y Brwynog y gelwid y perchenogion yn amser ei nain ef. Clywais mai yn Llanllibio y mae Brwynog. Gwerthwyd Bryniau a'r tyddynod eraill i wahanol bersonau rai blynyddoedd yn ol.

Cefn Bychan: "Margaret Wynn o Gefn Bychan, plwyf Niwbwrch, a adawodd ddeng-erw-ar-hugain o dir, gan drefnu i'w ardreth gael ei ranu rhwng dwy ddynes oedranus, un i fod o blwyf Llangwyfan, a'r llall o blwyf Llanbedr-goch."

Cefn Mawr isaf: Amaethdŷ hardd ar derfyn y plwyf ar ochr y ffordd ynghyfeiriad Llangaffo. Y perchennog ydyw Mr. Richard Hughes, cyn-Gynghorydd Sirol dros ddosbarth Llangeinwen.

Frondeg: Saif y lle hwn ar yr ochr arall i'r ffordd ac ychydig nes i Langaffo. Dywedir i'r hen blâs oedd yma hyd yn ddiweddar gael ei adeiladu yn nheyrnasiad Harri VIII. Yma y trigai Lewis Owen, Frondeg, mab i Owen Meuric, Bodowen neu Bodorgan. (Yr oedd y ddau le yma yn yr hen amser yn perthyn i un teulu.) Lewis Owen oedd cynrychiolydd y Sir yn seneddau 1553, a 1572. Y gwr hwn, meddir, a brynodd y Rhandir o Glan Morfa i Grochon Caffo. Yr