Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd William Owen, Frondeg, yn siryf yn 1633. Yn fuan ar ol marwolaeth William Owen, yr etifeddes Ellen Owen a ddyroddodd yr etifeddiaeth drwy ewyllys i Syr Arthur Owen, Barwnig, pennaeth y teulu, a pherchennog etifeddiaethau mawrion yn Siroedd Môn a Phenfro. Prynwyd yr etifeddiaeth yn Môn gan y Parch E. Hughes, tad Arglwydd Dinorben, etifedd yr hwn a'i gwerthodd tua chwarter canrif yn ol Prynwyd Frondeg a thiroedd eraill gan Mr. Owen, Plas Penrhyn.

Ar dir Frondeg fel cilbost lidiart gyferbyn a Lôn Dugoed, yr oedd hen garreg fawr arw, ac arni lythyrenau o arddull a cherfiad tra henafol. Yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif bu Lewis Morris (Llewelyn ddu o Fôn) tra ar ymweliad yn Frondeg, yn ceisio deongli yr argraff sydd arni. Dywedir mai math o Gymraeg Lladinaidd yw'r iaith, ac fod y nodiad yn disgrifio rhyw oresgyniad ddigwyddodd lawer o ganrifoedd yn ol. Os bydd rhywun yn awyddus i ddattod cwlwm dyrys a deongli ysgrifen ddieithr, eled i Festri Eglwys Llangaffo a darllened. Symudwyd y garreg o'i hen le, gyda chaniatâd y perchennog, gan y diweddar Barch. W. Wynn Williams, Menaifron, a gosodwyd hi ymhared y Festri.

Gorphwysfa a'r House: Mae'r tai hyn yn nesaf at eu gilydd, ac yn sefyll yn Heol Malltraeth. Tai diweddar yw'r adeiladau presennol wedi eu codi ar sylfannau tai henach. Efallai fod yr hen dai wedi eu hadeiladu yn amser yr adfywiad pan adeiladwyd y plâsau. Hwyrach i'r House gael ei fwriadu fel neuadd newydd neu dŷ y Gynghorfa, ac i Gorphwysfa gael ei adeiladu i fod yn dŷ y Maer pan ymwelai a'r dref. Hyd yn ddiweddar yr oedd regalias a chofnodion y dref yn cael eu cadw yn yr House.

Llanddwyn: Yr oedd Llanddwyn, cynwysedig o'r penrhyn a elwir felly yn awr, a'r Gwning-gaer Fawr, yn blwyf pwysig gynt ac yn brebendariaeth yn Esgobaeth Bangor, cyn iddo gael ei ddiffeithio gan drwch mawr o dywod. Byddaf fi yn meddwl mai