Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amser Rowlands oedd William Griffith, un o ddisgynyddion yr hen rydd-ddeiliaid gynt.

Cyfeiria Dafydd ap Gwilym at Lys Rhosyr yn ei gariad-gerddi, neu ei nofel brydyddol. Morfudd o'r Llys oedd ei gariad neu ei arwres.

Mae hen amaethdŷ Ty'n Rallt, lle y preswyliai y deiliaid diweddar, yn sefyll ar ben yr allt ynghwr Niwbwrch ac ynghyfeiriad yr Eglwys. Mae'r etifeddiaeth wedi ei thorri i fyny, a'i gwerthu i wahanol brynwyr. Fel y sylwais mewn pennod o'r blaen cymerodd Shôn Dafydd Ty'n Rallt a'i deulu ran flaenllaw iawn yn nechreuad yr adfywiad Methodistaidd yn Niwbwrch. Wyr i Shôn Dafydd oedd y Parch D. Jones, Dwyran. Y mae llawer o deuluoedd yn y parthau hyn yn disgyn o hono trwy un o'i dri mab, enwau y rhai oedd Shôn Shôn Dafydd, William Shôn Dafydd, ac Owen Shôn Dafydd.

19. RHESTR O FORWYR NIWBWRCH A ENILLASANT DRWYDDEDAU

I. Trwyddedig gan Fwrdd Masnach o dan Ddeddf 1854:

Meistri,—Hugh Evans, Bronderwydd; Robert Hughes, Gorphwysfa; John Hughes, Chapel St.; William Hughes, Ty'n y goeden; Owen Hughes, Do.; Hugh Hughes, Do.; Robert Hughes, Bronrallt; John Jones, Baron Hill; Owen Jones, Corn côch; Thomas Jones, Bronrefail; Thomas Jones, Carrog House; Thomas Jones, Fronheulog; Richard Jones, Tyddyn ; John Jones, Bryn Menai; Thomas John Jones, Brynhyfryd; Samuel Jones, Cefn Mawr Uchaf; William Lewis, Bryn sinc; John Lewis, Chapel St.; Owen Lewis, Llain Stent, (Extent?); Lewis Lewis, Do.; Hugh Roberis, Hendre' Fawr; Owen Roberts, Sign Fawr: William Roberts, Bron Ceinwen, Dwyran; William Roberts, Chapel St.; Robert Roberts, Tal Braich Terrace; William Thomas, Tal Braich, (gynt o Cae