Pydewau a berthyn i Wynniaid Glynllifon. Tynwyd yr hen blas i lawr ac adeiladodd John Rowland bedwar o dai yn ei le yn Heol yr Eglwys. Hen Blas sydd yn gysylltiol ag etifeddiaethau Llanidan a Llugwy. Arglwydd Boston yw'r perchennog. Sign Fawr (os nad wyf yn camgymeryd) oedd plas teulu Bod Ednyfed. Yr oedd Hendŷ (etifeddiaeth R. Roberts, tad Canon Roberts, Colwyn Bay,) Llain Nest, a Waen Sign yn perthyn i'r un teulu. Adeiladwyd Tal Braich ar Waen Sign.
Tyddyn: Hen dŷ lled fawr yn rhandir Hendre Rhosyr. Nid ydwyf yn gwybod pwy oedd yr hen etifeddion. Mae'r tŷ a'r tyddyn yn awr ym meddiant Owen Jeffreys Jones, ŵyr i John Jones y Tyddyn.
Tyddyn Pwrpas: Neu yn hytrach Tyddyn Bwrdais oedd efallai rywfodd yn gysylltiol a swydd y Maer, neu Y Bwrdais sef yr aelod seneddol. Yr oedd yn y dreflan hefyd Lain y Beiliaid. Ar y llain honno yr adeiladwyd y Rhenc Newydd, sef tai i'r tlodion. ddiweddar gwerthwyd y Rhenc ac adeiladwyd Soar Terrace yn ei lle. Ar ben Llain y Beiliaid, sef y lle y saif Capel Soar (A) arno, yr oedd adeilad dwbl. Gelwid un ran yn "Ysgoldy" a'r llall yn "Heinws," (Lockup). Yr oedd drws yr olaf fel drws carchar yn orchuddiedig â hoelion; ac ymhen uchaf y drws yr oedd twll crwn trwy yr hwn, meddid, y cai carcharor ei damaid bwyd.
Y Llys: Nid oes yma Lys yn awr, ond y mae'r cae lle safai gynt yn dwyn yr enw hyd heddyw. Y mae'r cae hwnnw yn agos i'r Eglwys, yn y cyfeiriad de-orllewinol o honi. Yr oedd y Llys wedi ei dynnu i lawr cyn amser Rowlands, ond canfu yr hynafiaethydd ddigon o olion i'w alluogi i ddweyd mai adeilad petryal oedd yr hen le. Clywais Robert T. Jones, Caeau Brychion, yn dweyd ddarfod i Charles Thomas, Ty'n Rallt, gloddio meini ynghwrr gorllewinol y cae, y rhai a ymddangosent fel sylfeini adeilad henafol. Gwnaed y darganfyddiad ychydig dros ugain mlynedd yn ol. Safai y Llys yn Hendre Rhosyr. Ar ol i'r Llys ddadfeilio cysylltwyd y tir â Thy'n Rallt. Yr etifedd yn