Felin Newydd. Mae annedd-dŷ a elwir Bryn y Felin wedi ei adeiladu ar y lle y safai y felin wynt arno. Mae yn y plwyf amaethdŷ bychan a elwir Melin Ffrwd. Dywed rhai fod olion llyn yn ymyl y tŷ yma. Efallai mai yn agos i'r lle y cyfeirir ato yr oedd yr ail felin.
Plas Uchaf: Yr wyf wedi methu cael allan pwy adeiladodd yr hen blâs hwn ac nis gwn i bwy y perthynai cyn i Samuel Roberts (yr hen Samol y Plâs) ei brynu yn gynar yn y Ganrif. Amaethwr o Benmynydd oedd hen wr hwnnw.
Mae ar dalcen y gegin groes, ac yn gwynebu'r ffordd fawr, arfbais rhyw deulu uchel. Bum yn ceisio deall yr argraff a'r arwyddluniau, ond methais oherwydd fod y tywydd a'r gwyngalchiad wedi eu gwneud yn aneglur. Gellir darllen tri o rifnodau y flwyddyn (16(?)1), ac mae'r bar ar draws yr arfbais yn eglur, ond y mae yn anhawdd os nad amhosibl deongli'r lluniau. Mae gwar yr hen blas wedi crymu llawer. Os dymchwelir rhan o hono, y mae arnaf ofn y bydd ei holl gyflwr yn anfeddyginiaethol. Wrth syllu arno llanwyd fi gan fil o adgofion; a thra yn sefyll ar ben uchaf y gefnen a goronir gan y Plas Uchaf pwysai hiraeth yn drwm arnaf. Bum am ddiwrnodiau lawer yn ddilynol yn methu tynnu fy myfyrdod oddiar ddigwyddiadau cysylltiol a mi a hen gyfoedion yn yr amser gynt ynghymydogaeth y Plâs. Gellir ysgrifenu uwchben gorweddfa lliaws o'r cymdeithion hyny ysgrif gyffelyb i'r gwpled a gerfiodd Bardd Du Mon ar fedd hen berchennog y Plas
"Yn noeth Samol wnaeth symud
I isder bedd o stwr byd."
Plasau eraill: Plas Newydd a berthynai gynt i Oweniaid Bodowen. Yn ddiweddarach yr oedd yn eiddo i'r Parch Edward Hughes, yna i'w fab, Arglwydd Dinorben; ac wedi hynny i nai y diweddaf, sef Mr. Hughes, Kinmel. Pan werthwyd yr etifeddiaeth prynwyd Plas Newydd gan Cadben Roberts, Tal Praich. Plas