Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyfeisydd cyntaf? Pa bryd y dechreuodd trigolion Niwbwrch wneud defnydd mor rhagorol o welltyn mor ddisylw? Mae'n amhosibl ateb y cwestiynau hyn; neu fel y dylaswn ddweyd, nis gallaf fi wneud hynny. Tybia rhai mai rhyw ddieithriaid, gannoedd o flynyddoedd yn ol, a ddaethant yma ac a hyfforddiasant y pentrefwyr yn y gwaith. Ond o ba le y daethant? Pa le y mae crefft yr un fath neu gyffelyb yn cael ei dilyn yn awr? Nis gallaf fi ddweyd.

Mae'r matiau wedi bod am oesoedd lawer yn dra defnyddiol i amaethwyr Môn, Arfon, a Dinbych, os nad parthau a Feirion hefyd, fel gorchuddiadau dros deisi ŷd a gwair, am ysbaid cyn eu toi. Nid llai defnyddiol yw y nwyddau eraill. Byddai yn ddyddorol pe ceid amcan-gyfrif o werth blynyddol yr holl ddiwydrwydd; nifer y rhai sydd yn awr yn gweithio; a beth yw y lleihad er pan y dechreuodd pris y môrhêsg godi. Dywedir wrthyf fod mwy o'r lodesi yn myned i wasanaeth arall, a mwy yn dysgu gwniadwaith, y naill flwyddyn ar ol y llall. Nid ydyw y bechgyn yn awr yn ymdroi dim gyda 'r môrhêsg. Y mae 'n ddiamheu fod y tai i gadw gwair a adeiledir mor aml yn lleihau gwerth y matiau, ac fod rhaffau o ddefnyddiau eraill yn cymeryd lle rhai o Niwbwrch. Ac hefyd yr wyf wedi clywed fod llawer o'r môrhêsg yn cael ei adael heb ei dorri oherwydd fod y tywod yn amser cynhauaf môrhêsg yn cael ei gynhyrfu, a'i wneud yn rhydd i'r gwynt i'w yrru i orchuddio y tir porfa, ac i gau i fyny dyllau y cwningod.

Wrth ddwyn y llyfryn hwn i derfyniad, efallai mai nid anyddorol fydd ychydig bach o hysbysrwydd ynghylch y dull o blethu morhesg. Mae 'n rhaid i geingciau pleth fod yn anghyfniferog. Y nifer of geingciau mewn pleth gyffredin o tua thair modfedd o led ydyw un ar ddeg. Wyth lath Gymreig (y mae llathen Gymreig yn 40 modfedd) a wna garrai, ac wyth garrai o bleth sydd ddigon i wneud mat cyffredin. Gwneir carrai fawr o dair caingc ar ddeg i wneud yr ymylon, neu'r ochrau, yn gryfion i ddal y priciau a