Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Niwbwrch (IA hanes-niwbwrch001ro).pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yrrir trwyddynt pan fyddys yn sicrhau'r gorchudd ar ben tâs.

Wrth ddechreu pleth, cylymir ynghyd gymaint o forhesg a ellir ei ddal yn rhwydd rhwng bys a bawd y llaw aswy. Yna gwahanir y sypyn bychan yn geingciau-un ar ddeg neu dair ar ddeg, yn ol ansawdd y bleth. Rhoddir morhesgen ynghyd â'r gaingc ar yr ochr dde, a phlethir hi tua'r aswy gyda thair neu bedair o'r ceingciau nesaf ati yn olynol. Yna gafaelir yn y gaingc ar yr ochr aswy a phlethir hithau yn gyffelyb tua'r dde i gyfarfod a'r hon blethwyd o'r blaen. Rhoddir môrhesgen ynghyd â'r gaingc dde drachefn, ac felly bob tro, gan blethu yr un modd ag y gwnaed ar ol rhoi y fôrhesgen gyntaf. Bydd y ddwylaw ar waith yn barhaus, y naill yn gafael yn y bleth tra bydd y llall yn plethu yr ochr nesaf ati.

Dywedir y gall un blethu wyth garrai, sef pedair a thrugain o lathenni Cymreig, mewn un diwrnod. Clywais am rai merched yn gallu plethu wyth garrai, eu gwnio ynghyd, a gorphen mát mewn diwrnod. Yn yr hen amser byddai tŷ fel ffactri fechan, lle gwelid y merched yn plethu, y gwr yn gwnio neu yn gwneud ysgubau, y bechgyn yn gwneud tannau, ac hyd yn oed y plant lleiaf yn cynorthwyo gyda 'u bysedd bychain cyflym ac yn gwneud llinynau meinion o forhesg i wnio y careiau ynghyd.

Tra'r ydwyf yn ymestyn tuag at y diwedd-glo, y mae lliaws o bethau yn ymdyrru i'r meddwl, ond y mae'n rhaid eu cadw allan oherwydd prinder lle. Yr ydwyf heb gyfeirio dim at Niwbwrch fel magwrfa gweinidogion yr Efengyl, beirdd, cerddorion, a llenorion oherwydd fod fy nefnyddiau yn rhy wasgarog i'w cael i bennod, am hynny nodaf yn fyr ychydig bethau yn y fan yma. Yn gyntaf gweinidogion,—Y Parchn. W. Jones, Llanenddwyn; Canon Roberts, Colwyn Bay; John Williams, Llanelltyd; R. H. Coles, Cenhadwr; a W. Owen, ymgeisydd ieuangc (Eglwyswyr); Y Parchn David Jones, Dwyran; W. Jones, Tyddyn Pwrpas Robert Hughes, Capel Coch; Robert