Tudalen:Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwasia.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddigaloni unrhyw ddyn arall. Y llecyn a ddewisodd ydoedd morfa truenus, y naill haner ohono o dan ddwfr, heb goed, clai, na cherig, nac unrhyw ddefnyddiau adeiladu; yr oedd у tir yn ddiffrwyth, a'r hinsawdd braidd mor oer a phegwn y gogledd. Y mae y penderfyniad i adeiladu dinas mewn lle fel hyn wedi cael son am dano bob amser fel gweithred dra annoeth; oblegyd, yn ychwanegol at yr anfanteision ereill, yr oedd yn agored i gael ei orlifo gan ddyfroedd y forgaingc, os chwythai y gwynt yn hir o'r de-orllewin, yn enwedig os dygwyddai chwythu felly pan fyddai rhew yr afon Neva yn cael ei doddi gan wres yr haf.

Pa un a oedd Pedr yn hysbys o'r anfanteision hyn ai peidio nid yw yn gwbl hysbys. Y peth sydd sicr ydyw, er gwaethaf pobpeth, ei fod wedi parhau i adeiladu St. Petersburg, yr hon, o dan ei egnïon rhyfeddol, a ddaeth yn fuan yn ddinas ysblenydd, ac yn gyfaddas i wneyd masnach a'r holl fyd. Yr hyn a ddechreuwyd ganddo ef a gwblhawyd gan ei olynwyr; ac y mae St. Petersburg erbyn heddyw yn alluog i gystadlu mewn ardderchogrwydd gydag un ddinas yn Ewrop. Er na chafodd erioed lawer o niwaid trwy orlifiadau, fel yr ofnid, y mae ar amryw achlysuron wedi cael ei gosod mewn perygl mawr, a'r trigolion mewn perygl hefyd.

Prif wrthymgeisydd Pedr oedd Siarl XII. o Sweden, un o filwyr mwyaf galluog yr oes hono. Y mae yn amlwg nad oedd gan Siarl ddim mwy, uchel yn ei natur nag a berthynai i ymladdwr pen ffordd. Yr oedd yn byw fel pe buasai dynion wedi dyfod i'r byd i ryfela, a dim arall. Nid oedd ganddo un meddylddrych am y fath beth a heddwch. Chwarddai am ben pob cysylltiadau cymdeithasol a theuluaidd, a gwnai wawd o dreialon mwyaf cyfyng y teimladau dynol. Pedr, ar y llaw arall, ni chefnogai ryfel, ond yn unig er dwyn yn mlaen ryw amcan mawr arall. Tra yn ymladd brwydrau, yr oedd ar yr un pryd yn cynllunio dinasoedd, yn sefydlu ysbyttai ac ysgolion, yn ffurfio camlesydd, yn adeiladu pontydd, ac yn trafaelio o gwmpas i arolygu pobpeth ei hunan, dan bob amgylchiadau, ac yn mhob hinsawdd; a thrwy hyny efe â ddinystriodd ei gyfansoddiad, gan hau hadau yr afiechyd a'i cariodd ef ymaith yn mlodau ei ddyddiau.

Tra yr oedd Siarl yn brysur mewn lleoedd ereill, cymerodd Pedr y cyfle i ail ymosod ar Narva. Gwarchaoodd hi trwy y môr ac ar y tir, er fod lluaws mawr o'i. filwyr yn Poland, ereill yn amddiffyn y gweithiau yn St. Petersburg, ac adran arall o flaen Derpt. Ond ar ol lluaws o ymosodiadau ar un tu, a gwrthwynebiad penderfynol ar y tu arall, Narva o'r diwedd a gymerwyd, ac yr oedd yr ymerawdwr yn mhlith y rhai blaenaf a aethant i mewn i'r ddinas, a'i gleddyf yn ei law. Rhaid fod. ei ymddygiad ar yr achlysur hwn wedi enill iddo barch, ac hyd yn nod serch ei ddeiliaid newydd. Yr oedd y gwarchaewyr wedi gwthio eu ffordd i'r ddinas, lle yr oeddynt yn lladrata ac yn ymarfer pob rhysedd ag y mae milwyr cynddeiriog yn alluogo hono. Rhedai Pedr o heol i heol, achubodd amrwy ferched o ddwylaw y milwyr creulon, a thrwy bob moddion ymdrechodd roddi pen ar drais a lladdedigaeth, gan ladd, a'i law ei hun, ddau o'r mileiniaid a wrthodasent ufuddhau i'w orchymynion. Aeth i mewn i neuadd y dref, lle yr oedd y dinaswyr wedi ffoi yn dyrfaoedd am ddyogelwch, ac wedi gosod ei gleddyf gwaedlyd ar y bwrdd, efe a waeddodd, "Nid yw y cleddyf hwn wedi ei ystaenio â gwaed eich cyd-ddinaswyr, ond â gwaed fy milwyr fy hun, yr hwn a dywelltais er mwyn achub eich bywydau chwi!"

BRWYDR PULTOWA

Yr oedd Pedr erbyn hyn, wedi cael yr hyn a ddymunasai, yn awyddus am heddwch; ond y mae trais bob amser yn cenhedlu awydd am ad-daliad; ac nid oedd Siarl mewn un modd yn foddlawn i golli darn o'i diriogaeth heb ychwaneg o ymladd. Efe a benderfynodd wneyd ymgyrch i Rwssia, a gosod telerau heddwch i lawr yn Moscow. Nid oedd Pedr, yr hwn a wyddai yn dda am natur gwlad Rwssia a'i thrigolion, yn cael ei ddychrynu yn y gradd lleiaf gan hyn. Yr oedd ei ddealltwriaeth clir yn dangos iddo ef yr anhawsderau ag y byddai i hinsawdd lem y wlad, a'i heangder dirfawr, ei osod o flaen y fyddin ymosodol, a chymerodd ei amser yn bwyllog i gynyddu yr anhawsderau hyn. Yr oedd byddin Siarl yn anrheithio y wlad lle y delent, ac yn rhoddi i farwolaeth gannoedd or werin, y rhai a ddrwgdybient o ddirgelu y grawn a phob mathau ereill o ddefnyddiau ymborth.

Yr ymerawdwr a'i fyddin a enciliasant yn raddol o flaen y goresgynwyr—felly yn eu hudo, o gam i gam, i ganolbarth gwlad ddiffrwyth, nes yr oedd Siarl a'i fyddin wedi ymgolli yn nghanol anialwch hen wlad y Scythiaid. Ond yr oedd sefyllfa yr ymerawdwr yn wahanol iawn i hyn. Yr oedd efe gartref, adnabyddai hyd yn nod yr anialwch, ac yr oedd mewn cymundeb dyogel a chyfleus gyda'i ddinasoedd a'i ystorfeydd