ag ef ei hun. Felly aethant i'r môr unwaith etto. Llwyddodd Capten Brathwaite yn y byd, cafodd godiad i swydd uwch yn y llynges, a bu farw yn 1805 yn Greenwich. O'r tu arall, bu Capten Lloyd yn anffodus, collodd ei long trwy dân, ac ymneillduodd o'r llynges. Bu farw yn 1801 yn ddyn sengl.
Gadawodd yn ei ewyllys ddwy rhan o dair o stâd Cilgwyn i'w hen gyfaill, fel cydnabyddiaeth o'i hen ddyled, a'r gweddill o'i gyfoeth (oddigerth y drydedd ran o Gilgwyn, yr hwn a roddodd i'w gefnder Thos. Lloyd, Coedmor,) i ferch ieuangaf ond un i'w gyfaill, sef mamgu y diweddar Mrs. B. E. Hall.
Yr oedd y tŷ cyntaf a'r ardd wyddom am danynt yn y pentre yn cael eu dal gan Einon ap Hywel yn y flwyddyn 1524. Yn ol pob tebygolrwydd yr oedd y tŷ gerllaw yr Eglwys.
Codwyd yr "Union Inn," er dathlu'r uniad rhwng Lloegr a'r Alban (Scotland), yn y flwyddyn 1707.
Tai tô brwyn a gwellt oedd yn y pentre cyn 1780-83. Wedi toi yr Eglwys a llechau, yn fuan gwnawd yr un modd a'r Porth a Thyssul Lodge.
Un amser yr oedd Swyddfa'r Post yn Abercerdin, yna fe'i symudwyd i'r pentre ar y cyntaf o Fai 1861, a chafodd ei gwneyd yn brif swyddfa y laf o Fai 1868. Y mae 18 o Swyddfeydd-Post o deni yn awr. Y Postfeistr presenol yw Mr. Richard Morgan Davies. Cyrhaedda llythyron o Lundain a manau ereill am 7 y boreu, ânt allan am 4.45 y prydnawn. Daw y "North Mail" i fewn am 12.30 y nawn, â allan am 10.25 y boreu; â'r "Irish Mail" allan am 8.25 yr hwyr. Gyrir llythyron oddiyma i Maeslyn, Castellnewydd Emlyn ac Aberteifi am 6.45 y boreu, a 3.45 y nawn. Oriau'r Swyddfa a'r Banc Cynilo y'nt o 8 y boreu i 8 yr hwyr.
Dechreuodd y trên redeg oddiyma i Gastellnewydd Emlyn ar y 1af o Orphenaf 1895.
Parhâ y Van i redeg yn ddyddiol i Geinewydd.
Cyflenwir y pentre a dwfr o Ffynon Tyssul, yr hon