Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd yn rhan ogleddol y pentre, ger y brif-ffordd. Hyd 1892 yr oedd y ffynon yn agored, ond y flwyddyn hono darfu i'r pentrefwyr danysgrifio y swm o £51 6s. 2c. er prynu sugn (pump) a dyfrgist, a chodi tŷ uwchben y ffynon. Mesura y dyfrgist 12 troedfedd o hyd, wrth 2 droedfedd a 9 modfedd o led, a medr gynnwys 1,300 o alwyni o ddwfr. Gosodwyd cylch haiarn wrth un o'r llechfeini ym mhen gogleddol y ffynon, i wasanaethu fel mynedfa i'r ffynon pan fydd galw am hyny.

Y mae tri Banc yn y pentre, sef y "National & Provincial," a agorwyd yma yn 1862; eiddo "Lloyd," 1890; a'r National Bank of Wales, (wedi hyny y Metropolitan), 1890.

A chyfrif Ponttwely y mae 7 o achosion crefyddol yma, sef Eglwys y Plwyf, Peniel (Wesleyaid), Graig (Undodiaid), Seion (Annibynwyr), Ebenezer (Bedyddwyr), Tabernací (Methodistiaid), a Phenybont (Bedyddwyr).

Ceir yma 12 o dafarnau a chyfrif Ponttwely.

Ar y 14eg o Fedi 1892, agorwyd yma am y tro cyntaf erioed Swyddfa Argraffu, sef y GOMERIAN PRESS.