Tudalen:Hanes Plwyf Llandyssul.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sma 136 6 8

aHevene. bTrefdreher. cLanloidmar. dEcca. eBlaynan-arwick.

Sma Taxaconis Tocius Archid' de Kardygan: £393 3 4.

Estt yw Llanfihangel Ystrad, Landlordman yw Llangoedmor, Thaleleken yw Talley neu Talyllychau.

3. Y cam nesaf yn hanes Eglwys Llandyssul yw ei chysylltiad ag Eglwys Golegawl (Ecclesia collegiata), Llanddewi Brefi, yn Sir Aberteifi. Sefydlwyd Coleg Llanddewi Brefi gan Thos. Beck, Esgob Tyddewi, yn 1287, er anrhydedd i Dewi Sant, a bregethodd yn y Synod a gynhaliwyd yn 519, yn ol hen draddodiad disail, ac a roddodd derfyn ar yr heresi Belageidd. Yr oedd yn goleg i un Prif-gantor (Precentor), a 12 o Gorwyr (Prebendaries). Yr oedd nawddogaeth yr Eglwysi oeddynt yn cyflenwi trysorfa y Coleg wedi dyfod i ddwylaw yr Esgobion trwy anrheg gan Edward y laf, yn y flwyddyn 1284, yr hwn a atafaelodd (confiscate) yr Eglwysi hyn, ynghyd a glwysfuddiaethau (adrowsons) eraill yn ystod ei ryfel yn Nghymru. O'r deg Eglwys oeddynt yn gysylltiedig a'r Coleg, ac yn feddianol ar Rheithor a Ficer, yr oedd Llandyssul yn un. Enwau y lleill oeddynt, Llangeler, Cwmdu, Crickhowell, St. Florence, Lacharn, Angle, Stackpole, Elyder, Tenby a Llanddewi Felfre. Yn y flwyddyn 1535 darfu i gyllid yr Eglwysi gael ei brisio trwy orchymyn Harri yr 8fed, er mwyn trethu y ddegfed ran dyledus oddiwrth yr offeiriaid. Gelwir y prisiad hwn yn "Valor Ecclesiasticus"; ynddo cawn fod cyllid Rheith- oriaeth Llandyssul i'r Rheithor yn £15 16s. 11c., a chyllid y Ficer yn £10 0s. Oc. Cyhoeddwyd y "Valor Ecclesiasticus" mewn chwech cyfrol yn y blynyddau 1811-34. Wele ddyfyniad o'r "Valor" parth Llandyssul:—