Felly, gwelir oddiwrth y "Valor" fod Rheithor Llandyssul yn talu £1 5s. 8c., a'r Ficer, £1 0s. 0c., yn flynyddol i Gôr-offeiriadol, Tyddewi.
Ymhen 12 mlynedd ar ol prisiad Harri yr 8fed, ("Valor Ecclesiasticus "), sef ar yr 20fed o Awst, yn y flwyddyn 1af o deyrnasiad Edward y 6ed; (1547), rhoddwyd Rheithoriaeth Llandyssul trwy anrheg Frenhinol i Arglwydd Northampton, a phasiodd oddiwrtho ef, yn ol pob tebygolrwydd trwy bryniad, i Syr James Ouchterlong. Ar y 23ain o Orphenaf 1647, darfu i David Ouchterlong (tybiwn ei fod yn berthynas i Syr James Ouchterlong) i ddanfon deiseb i'r Senedd. Yr oedd Walter Bowen wedi ei anrhegu a Rheithoriaeth Llandyssul. Cafodd ei sefydlu a'i gyflwyno yn gyfreithiol, trwy orchymyn y Tŷ, i'r Rheithoriaeth; ond aflonyddwyd ef gan Thomas Evans a John Lloyd, y rhai a ddygasant Fibl yr Eglwys oddiwrtho, ac a ddanfonasant tua 20 o ddynion wedi eu harfogi, i godi y degwm perthynol i'r Rheithoriaeth. Darfu iddynt glwyfo ac ymosod ar Oruchwylwyr Bowen, gan geisio eu gorfodi i drosglwyddo y degwm. Deisyfai y deisebwr ddanfoniad personau at aflonyddwyr a gwrthwynebwyr Bowen, er mwyn eu cyrchu i roddi cyfrif am eu hanfri. A'r ddeiseb cyssylltwyd: (1) Ardystiad David Rees ar lw yn gefnogol iddi wedi ei ddyddio Gorph. 15eg. (2) Ardystiad Thomas Phillips ar lw wedi ei ddyddio