Y mae y bedydd-faen ger y drws gogleddol yn gawg ysgwâr, ac yn gorphwys ar biler crwn. Naddwyd ef o gerrig Gwaralltyfaerdre. Y mae y twr yn ogoneddus. Yn ol Mr. Middleton, darfu i dyrrau o fath yr un yma gael eu hadeiladu o'r 12fed i'r 14eg ganrif. Uwchben drws y twr, y mae ffenestr fwäog wedi ei phwyntio, ac y mae pedwar o benau mawrion (gargoyles) ar bedwar cornel y twr ar y top y tu allan. Cyn y 14eg ganrif tua ugain troedfedd o uchder oedd y twr; y mae yn awr yn 73 troedfedd, ac y mae mur y clochdy yn chwech troedfedd o led. Arddengys y twr bedwar cyfnod o adeiladaeth (1) cerrig Afon Teifi am yr 20 troedfedd cyntaf; (2) cerrig Coedigill; (3) cerrig nadd o fanc Llanwenog; a (4) cerrig o Gastellhywe'. "Flags" o Gastellhywel sydd wedi eu defnyddio i lech-lorio yr Eglwys i gyd. Yn 1870 pwyntiwyd y twr o'r newydd, ac yn 1872 pwyntiwyd yr holl Eglwys. Oherwydd fod y twr yn gollwng dwfr, gorfuwyd ei adgyweirio yn 1894. Yn y clochdy y mae pedair cloch wedi eu moldlunio yn y flwyddyn 1777, ac oddiwrth y Cofrestrau cawn mai yn y flwyddyn hono y gosodwyd hwynt yn eu lleoedd presenol. Ar ddechreu y ganrif hon, chwareuid y bêl yn erbyn y twr, ac y mae yma draddodiad mai dim ond un clochydd fedrai fwrw y bêl dros y twr. Cyn y flwyddyn 1780, tô gwellt oedd ar yr Eglwys; y flwyddyn hono tynwyd ef i lawr, a gosodwyd un llechau i fyny yn ei le. Cwblhawyd ei doi cyn 1783. Yn yr Eglwys y mae pump o daflenau. Wele hwynt:
(1.) Ar gof-faen o farmor gwyn, wedi ei osod ar yslab du hirgrwn ar biler, yr ochr ogleddol o gorph yr Eglwys, y mae y cerfiad canlynol:
"To the Memory
of his beloved wife Eliza
(who died June 3rd, 1805, aged 36 years)
Daughter of Herbert Evans, Esq.,
of Highmead, in this County,
David Lloyd, Esq., of Alltyrodin,
Erected this monument.