Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNODI

Oes y Cerrig. Oes y Pres. Caerau. Carneddau. Oes yr Haearn. Y Cyfnod Rhufeinig. Y Daniaid. Oes y Tywysogion. Cantref Meirionnydd. Cwmwd Tal-y- bont. Maenor Tal-y-Bont. Y Normaniaid. Maesdref Llanegryn. Y Dref Gaeth. Tref Rhydcryw. Tref Peniarth.

OES Y CERRIG

NI wyddom enw'r llwyth a ymlwybrodd gyntaf ar fryniau a mynyddoedd ardal Llanegryn. Nid erys ond ychydig o olion Oes y Cerrig yn ein plwyf. Dwy fwyall garreg yw'r olion hynaf a ddarganfuwyd hyd yn hyn yn Llanegryn; cafwyd hyd i'r ddwy ar dir y Celmi. Bwyall garreg gleifaen (shale) gaboledig yw un ohonynt, o ffurf hirgron, wedi ei hamharu ychydig ar yr wyneb. Deuwyd o hyd iddi mewn clawdd yn agos i dŷ'r Celmi, Medi 1871. Bwyall garreg (diabase) gaboledig yw'r llall, o ffurf hirgron, a chafwyd hyd iddi wrth aredig yn un o'r caeau y gwanwyn 1922. Perthyn y ddwy i'r cyfnod rhwng Hen Oes y Cerrig ac Oes Newydd y Cerrig.

Darganfuwyd fflaw (Flake) o gallestr llwyd mewn carnedd ar ben yr Allt-lwyd. Cafwyd hyd iddi Gorff. 1868. Ceir darluniau o'r ddwy fwyall yn y Guide To The Collection Illustrating the Prehistory of Wales.

Perthyn y Cromlechau a'r Meini Hirion i Oes Olaf y Cerrig, a dechrau Oes y Pres. Nid erys yr un Gromlech ym mhlwyf Llanegryn, ond deil rhai Meini Hirion nodedig i sefyll hyd heddiw. Saif dau ohonynt ar fin yr hen ffordd sy'n arwain o Lwyngwril i'r Ffordd-ddu yng nghymdogaeth Cyfannedd-fawr. Y mae uchder y cyntaf yn saith troedfedd a hanner. Saif yr ail drigain llath yn is i lawr ar y ffordd, ac y mae ei uchder yntau tua phum troedfedd a hanner. A gwelir ar Fynydd Braich-du faen llydan ar ei ben yn y ddaear, a'i uchder yn bedair troedfedd. Ceir maen ar un o gaeau Waun-fach yn mesur tua phum troedfedd o uchder, a chredir bod hynafiaeth yn perthyn iddo.