Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

OES Y PRES.

Y mae gennym le i gredu bod Oes y Pres wedi torri'n gynnar ar ein cymdogaeth. Cafwyd bwyall ar dir Goleuwern yn 1855; yr oedd mewn cyflwr da, ac o waith celfydd a dolen ar ei chanol. Deuwyd o hyd i fwyall bres a dolen iddi, a streip ganolog ar ei llafn, ar un o gaeau Hen-siop wrth ddal tyrchod, Rhagfyr 1873; a chafwyd bwyall bres â dolen iddi a thair streip gyfochrog ar ddeutu'r llafn; a hefyd bwyall bres arall yn meddu ar soced, â'i hwyneb yn ddiaddurn, pan oeddid yn hela cwningod yng Nghoed-y-graig, Peniarth-uchaf yn y flwyddyn 1886. Ceir darluniau o'r bwyeill hyn. yn y Guide To The Collection Illustrating The Prehistory of Wales. Tebyg yw y deuai'r Gwyddyl i'n gwlad draws y môr a glanio yn ardal Aberdysynni mewn math o gychod. Deuwyd o hyd i ddwy wayw-bicell yn chwarel Tonfannau yn 1932. Dywedir gan wŷr profiadol eu bod yn perthyn i'r cyfnod bore 1700 cyn Crist. Tebyg yw y byddai'r Gwyddyl yn masnachu mewn nwyddau pres yn ardal Dysynni â thrigolion Meirionnydd a chanolbarth Cymru.

CAERAU A CHARNEDDAU.

Bu Pen-y-bwch yn drigfan cynhanes. Ceir yma olion hen gaerfa sy'n mynd yn ôl i ddechrau'r cyfnod Cristionogol, a gwelir olion amryw hen gaerau o Ben-y-bwch i ben y Gaer, tucefn i Gastell-mawr. Bu preswylio bore ar y braich tir sydd ar ochr Llanegryn i afon Dysynni, fel yr awgryma'r enwau Cae'r-garn, y Garnedd-uchaf, y Garnedd-goch, a Rhyd-y-garnedd. Ceir olion amlwg o'r hen fywyd cyntefig hefyd ar fynyddoedd Llanegryn yn y "Cutiau Gwyddelig" lle y cyfanheddai'r hen drigolion, ac yn y carneddau lle y claddent eu meirw. Gwelir hwy ar fynyddoedd Cyfannedd, Braich- du, Rhydcryw, Allt-lwyd, a Rhiwfelen. Ceir sylfeini dwy garnedd ar ochr y Fordd-las uwchben Caermynach; mesura un ohonynt ddeugain troedfedd yn dryfesur, tra nad yw'r llall ond deg troedfedd. Nid oes llecyn mwy diddorol i hynafiaethwyr na phen uchaf yr Allt-lwyd. Saif olion tair