Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

carnedd ar frig yr allt. Y mae'r ganol ohonynt tua phum troedfedd a deugain o dryfesur a phum troedfedd o uchder. Agorwyd hon a chafwyd olion esgyrn llosgedig ynddi. Agorwyd yr isaf hefyd a chynhwysai hithau weddillion llosgedig.

Y mae mwy nag un bedd a elwir yn Fedd-y-brenin ar fynydd Llanegryn. Cysylltir un â'r garnedd a elwir Carnedd Pant-gwely'r-meibion. Saif hon ar y gefnen a gysyllta fynydd Pen-y-garn â Chraig Cwm-llwyd; gelwir hi hefyd yn Garnedd Cwm-llwyd, ac yn Garnedd Bedd-y-brenin. Agorwyd hi yn 1852, a chaed cistfaen oddi mewn iddi, a charreg orchudd fawr ar ei hwyneb. Yn y gist yr oedd ychydig esgyrn llosgedig. Mesura tua phum troedfedd ar hugain o dryfesur a phum troedfedd o uchder. Ceir carnedd a elwir yn Garnedd Goleuwern neu'r Gleuwer. Agorwyd hon hefyd yn 1852 a chafwyd cistfaen â charreg orchudd arni o fewn rhyw droedfedd a hanner i'r wyneb. Mesura ddeu naw troedfedd ar hugain o dryfesur, ac y mae ei hwyneb yn wastad â'r ddaear. Ceir casgliad bychan o'r esgyrn mân a gafwyd yng ngharneddau Goleuwern a Bedd-y-brenin yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd.

Pwy oedd yr hen frenin a gladdwyd yng ngharnedd Cwm- llwyd? Nid oes neb a etyb. Ni chafodd unrhyw deyrn erioed feddrod ar fangre fwy rhamantus i orwedd ynddi dros ei hir gwsg.

Ar y llennyrch uchaf y canfyddir y carneddau fel rheol, yn llygad haul ac yn yr awelon iach. Deuir ar draws amryw ohonynt ar y trumiau a'r esgeiriau sydd uwchlaw Peniarth- uchaf, ac i fyny i odre Cader Idris.

Gwelir yr olion amlycaf o'r "Cutiau Gwyddelig" ar fynydd Cyfannedd fawr. Cylch crwn yw'r cut, a medd rhai ohonynt hanner cylch y tu mewn i'r cylch allanol. Gwaith da fyddai diogelu'r gweddill o'r carneddau, y cutiau, a'r meini hirion sy'n aros ar fynyddoedd y plwyf cyn iddynt lwyr ddiflannu.