Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y DANIAID

Anodd yw nodi beth fu cysylltiad y Daniaid neu wŷr Llychlyn â Dyffryn Dysynni. Diffeithiwyd y Tywyn gan y Cenhedloedd yn y flwyddyn 963, ond yn ôl Brut y Tywysogion a Brut y Saeson digwyddodd yr ymosodiad ddwy flynedd yn flaenorol. Dinistriwyd eglwys y Tywyn yng nghwrs yr ymgyrch. Adroddir am Gruffydd ap Cynan yn ymladd brwydr waedlyd yng nglyn Cyning yn erbyn Cynwrig a Thrahaearn. Meddai Gruffydd ar fyddin a nifer mawr o wŷr Llychlyn ynddi; a gelwid maes y Gyflafan yn Waeterw, a dyfelir i'r frwydr hon ddigwydd yng nghymdogaeth y Tywyn. Dywaid traddodiad fod y Daniaid wedi cartrefu ar fanc Ynys-las ar fin afon Dysynni. Gelwir y Domen a saif ar y morfa rhwng gweirgloddiau Ysguboriau a Rhyd-y-garnedd yn Ynys-las, a honnir mai'r Daniaid a'i cododd ac iddynt osod eu gwersyll arni. Gelwir gweirglodd berthynol i Ysguboriau yn Weirglodd-pedawr-gŵr-du, a gelwir tyddyn ar ochr Lanegryn i'r afon yn Fryn-y-gweision-duon. Bu hefyd dyddyn yn agos i'r Pant a adnabyddid wrth yr enw Tirgwadan-ddu; a gelwid y Daniaid gynt, y Llu Du, y Cenhedloedd Duon, a'r Paganiaid Duon.

OES Y TYWYSOGION

Ychydig o hanes y plwyf sydd yn wybyddus inni yn ystod oes y Tywysogion. Cefndir y plwyf yw Cantref Meirionnydd a Chwmwd Tal-y-bont. Yr oedd Cantref Meirionnydd yn wreiddiol yn rhan o Bowys. Rhoddwyd ef dan amod gwrogaeth i Uchtryd ab Edwin o Degeingl. Cafodd ei oresgyn gan Gadwallon ac Owain, feibion Owain Gwynedd, ac felly daeth yn rhan o Wynedd, fel y bu byth wedyn.

Daliai Cantref Meirionnydd ryw fath o "Status Dominiwn." Yr oedd ef megis yn is-deyrnas o Wynedd, dan linach o dywysogion o deulu Aberffraw. Cynan ab Owain Gwynedd a ystyrir yn gychwyn y llinach, ac felly gelwir y Cantref weithiau'n "wlad Cynan." Gelwid ef felly gan