Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gerallt Gymro pan deithiai ar hyd Cymru gyda'r Archesgob Baldwin.

Dyma linach y tywysogion a fu'n teyrnasu ar y Cantref.
(Owain Gwynedd.)
Cynan. (Bu farw 1173)
Gruffydd
(Bu farw 1200)
Hywel
Maredydd. (Bu farw 1212)
(Bu farw 1216).
Llywelyn
Maredydd. (Bu farw 1255).
Llywelyn. (Bu farw 1263).
(Credir mai mab i'r Llywelyn hwn oedd y
Madog a arweiniodd wrthryfel enwog 1294-5
yn erbyn Edward I.)

Tybiodd Llywelyn ab Iorwerth ei bod hi'n amser iddo roi terfyn ar yr hanner-annibyniaeth hon, a chwplawyd y gwaith yn 1256 gan Lywelyn y Llyw Olaf.

CANTREF MEIRIONNYDD

Cyrhaeddai'r Cantref o Bennal ar lan afon Dyfi hyd afon Mawddach, ac ymestynnai o lan y môr i ben y Garneddwen, at ffin plwyf Llanuwchllyn; a chylchynnid ef gan Ardudwy, Penllyn, Cyfeiliog, a Genau'r Glyn. Rhennid ef ar un adeg yn dri chwmwd a elwid yn Dal-y-bont, Ystumanner a Phen- nal. Ond byr fu arhosiad Pennal fel Cwmwd. Hoffai Tywysogion Gwynedd Gantref Meirionnydd, a phan ym- welent â'r fro eu dewis-fan i gartrefu oedd Llys Tal-y-bont ar lan Dysynni.

CWMWD TAL-Y-BONT

Rhennid Cwmwd Tal-y-bont oddi wrth Gwmwd Ystumanner gan afon Dysynni a hollt Tal-y-llyn; a rhennid