Tudalen:Hanes Plwyf Llanegryn.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Cwmwd yn ddau ranbarth, sef Tal-y-bont Is Cregennen a Thal-y-bont Uwch Cregennen. Cynhwysai Tal-y-bont Is Cregennen blwyfi Llanegryn, Llangelynnin, a threddegwm Uwchgarreg ym mhlwyf Llanfihangel-y-pennant; a chyn- hwysai Tal-y-bont Uwch Cregennen blwyfi Islaw'r-dre, Brithdir, Llanfachreth, a rhyw gymaint o blwyf Llanelltyd. Safai llys y Cwmwd ym mhlwyf Llanegryn.

MAENOR TAL-Y-BONT

Cydnabyddir bod Maenor Tal-y-bont yn cynnwys plwyf Llanegryn, a honnir bod yr hawliau maenorol yn ymestyn dros ffiniau'r plwyf. Gellir ystyried i bob pwrpas ymarferol mai plwyf gwladol Llanegryn oedd tiriogaeth maenor Tal-y- bont. Sonnir yn gynnar yn yr ystentiau Seisnig am Faenor Tal-y-bont, ac yn llys y faenor y ffynnai awdurdod y Cwmwd. Safai'r llys yn agos i amaethdy Tal-y-bont, a cherllaw'r Domen Ddreiniog, yr unig olion a erys o'r hen lys. Ysgrifennodd Llywelyn Ein Llyw Olaf lythyr o Dal-y-bont ar y 6 o Hydref 1275 at Archesgobion Caergaint a Chaerefrog a gyfarfyddai mewn cyngor yn Llundain.

Pan syrthiodd Llywelyn yn 1282 aeth tiroedd Tywysogion Gwynedd yn eiddo Coron Lloegr, ac aeth maenor Tal-y-bont yn eu plith.

Y NORMANIAID

Gyda buddugoliaeth Edward I, daeth y Normaniaid i aros i'n gwlad. Y mae'n sicr fod Edward I wedi bwriadu Normaneiddio Dyffryn Dysynni a gwlad Meirion. Yn y flwyddyn. 1285 rhoddodd ef Siarter i Gastell-y-Bere, a golygai hynny roddi llywodraeth dros ran amhenodol o wlad, i wŷr y dref. Tref gastellog y Bere yw'r unig un o drefi Siarteredig Edward I a ddadfeiliodd yn llwyr o fodolaeth.

Dywedir gan W. W. E. Wynne i Edward I arwyddo Siarter yn Nhal-y-bont yn y flwyddyn 1295; Gwel. History of Llanegryn.