Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr amod y buasai'r swm o ddwy fil o bunnau yn cael eu casglu cyn dechreu adeiladu arno. Erbyn y flwyddyn 1873 yr oedd y trefniadau wedi eu cwblhau. Gosodwyd hi i'w hadeiladu i Mr. John Roberts, adeiladydd, o dan arolygiaeth Mr. Thomas Roberts, C.E., Porthmadog. Y penseiri oeddynt—Mri. Axniam a Parrott, 7, John Street, Adelphi, Llunden; a Mr. Roberts ei hunan. Gosodwyd y garreg sylfaen i lawr ar yr 21ain o Hydref, 1873, gan Francis W. Alexander Roche—ŵyr i Mr. Madocks ac yn unol â'r arferiad wrth adeiladu eglwysi, rhoddodd Mr. Casson botel, yn cynnwys Beibl Cymraeg, Llyfr Gweddi Gyffredin Cymraeg a Saesneg—copi o'r North Wales Chronicle, Baner y Groes, Amddiffyniad yr Eglwys, ynghyda memrwn ac arno enwau'r Pwyllgor; hefyd botel fechan arall, yn cynnwys y darnau, deuswllt, swllt, chwech, ceiniog, a ffyrling, ac a'u dododd mewn lle a naddesid yn y garreg. Yr oedd holl draul yr adeilad yn £4,619 6s. 5c. Cysegrwyd hi (yn ddi—ddyled) ar y 4ydd o Fai, 1876. Y curad y pryd hwn ydoedd y Parch. John Morgan sy'n awr yn Edeyrn; dilynwyd ef gan y Parch. John Morgan Jones; ac yn olynydd iddo yntau daeth y Parch. David Lloyd Jones.

Ar yr 1leg o Awst, 1884, caed caniatad oddiwrth yr awdurdodau i wahanu trefi'r Gest ac Uwch y Llyn —sef Ynyscynhaiarn—oddi wrth Griccieth a Threflys, gan eu gwneuthur yn un plwyf at wasanaeth eglwysig, a gwnaed y Parch. D. Lloyd Jones yn ficer. Yn 1888 symudodd Mr. Jones i fywoliaeth Amlwch, a dilynwyd ef gan y Parch. Llewelyn R. Hughes, M.A., yr hwn oedd ar y pryd yn gurad yng Nghaernarfon. Ar yr 21ain o Ragfyr, 1908, gwnaed Porthmadog yn fywoliaeth ar wahan i'r Ynys—cyn hynny nid ydoedd ond Eglwys Dosbarth (District Church), a'r Ynys yn Eglwys y Plwyf, ym mywoliaeth Ficer Criccieth. Yn y flwyddyn 1889 adeiladwyd Ficerdy, ar y draul o £1,563, 15s. 8c. Yn y flwyddyn 1897, anrhegodd Mr. F. S. Percival yr eglwys ym Mhorthmadog â Festri, a Thwr, a chwech o glychau ynddo, y rhai a gysegrwyd yn 1900. Ymhen dwy flynedd ychwanegwyd dwy gloch