Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arall; cyfanswm y drauli Mr. Percival, oddeutu £3,000. Yn 1899 adeiladwyd Neuadd Eglwysig yn Terrace Road, ar y draul o £1,399 18s., a chysegrwyd hi'r un amser a'r clychau. Cynhelir yn y neuadd hon wasanaeth Saesneg ar nos Suliau, a chyfarfodydd eraill perthynol i'r Eglwys yn ystod yr wythnos.

Yn 1902 ymadawodd y Parch. Ll. R. Hughes i Landudno, a dilynwyd ef gan y Parch. J. E. Williams, M.A., oedd yn ficer ym Mhont Ddu.

Yn 1903—4, trwy garedigrwydd Mr. Griffith Owen, Bryn Glaslyn, dechreuwyd ar y gwaith o gasglu gwaddoliad er mwyn codi cyflog y ficer i £200, a sicrhawyd i'r amcan y swm o £1,400 (ond sydd erbyn hyn yn £2,000), a gallwyd drwy hyn wneuthur Porthmadog yn fywoliaeth ar wahan i Ynyscynhaiarn, yr hyn a wnaed yn niwedd 1908, er galluogi Mr. Williams i gyfyngu ei wasanaeth i Borthmadog er nad i dref Porthmadog yn unig.

Y flwyddyn ddiweddaf symudwyd ymlaen i adeiladu eglwys ym Mhorth y Gest. Rhoddwyd y tir yno gan Arglwydd Harlech, ac ar y 24ain o Ionawr, 1912, gosodwyd y garreg sylfaen. Pwyllgor y symudiad ydynt: Capten Jones, Borth; Mr. A. Thomas, Mr. G. Yates, Mr. William Jones, a'r Parch. J. E. Williams, M.A. Ar gyfer y Cymry'n bennaf yr adeiladwyd Eglwys Sant Ioan. Y mae gwasanaethau deg y bore a chwech yr hwyr ar y Sabathau, yn cael eu cynnal yng Nghymraeg.

Gellir dweyd fod holl draul yr Eglwys ym Mhorthmadog—gan adael allan roddion hael Mr. Percivaltua deng mil o bunnau.

Rhif y cymunwyr, y Pasg, 1912, 400. Aelodau'r Ysgol Sul, 250.

Pwyllgor yr Eglwys—Cadeirydd: Lieut. Colonel J. S. Hughes, V.D. Trysorydd: Mr. W. H. Edwards. Ysgrifennydd Mr. A. G. Edwards.

Clerigwyr:

Y Parch. J. E. Williams, M.A.
Y Parch. R. Hughes, M.A.
Y Parch. W. Walter Jones, B.A.
Y Wardeniaid.—Mr. D. Breese, Mr. R. Parry.