Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IV.
ADDYSG.

Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd;
A phan heneiddio nid ymedy â hi.
Pennaf peth yw doethineb; cais ddoethineb:
Ac a'th holl gyfoeth cais ddeall.
Dyrchafa di hi, hithau a'th ddyrchafa di;
Hi a'th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi.
Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb,
A'r dyn a ddygo ddeall allan.
Gwell yw ei marsiandiaeth hi na marsiandiaeth o arian,
A'i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth.
Gwerthfawrocach yw hi na gemau:
A'r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi.
Hir hoedl sydd yn ei llaw ddehau hi;
Ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant.
Ei holl lwybrau hi ydynt heddwch. —Solomon


YR YSGOLION BORE.

ADDYSG.—Yr Ysgolion Bore—Yr Ysgol Frytanaidd—Yr Ysgol Genedlaethol—Brwydr y Bwrdd Addysg—Wedi'r Frwydr—Yr Ysgolion presennol—Yr Ysgolion Uwchraddol.

FE ellir dweyd un peth am Borthmadog nas gellir ei ddweyd am bob tref, sef yw hynny, na bu hi erioed yn ddi-grefydd, nac ychwaith yn ddi-addysg, a hynny'n bennaf o herwydd ei hagosrwydd at Dremadog; ac hefyd, am mai tref ieuanc ydyw. Tremadog yw ei mham: o honi hi y deilliodd. Hi oedd ei thref marchnad; yno y cynhelid ei llysoedd, ei chymanfaoedd yno hefyd yr addolai ei phobl, ac yr addysgid ei phlant.

Yr oedd ysgol ddyddiol wedi ei sefydlu yn Nhremadog er y flwyddyn 1816. Prif sylfaenwyr yr ysgol honno oeddynt: Mr. John Williams, Tywyn (Tuhwnt i'r Bwlch); y Parch. John Jones; Mri. Robert Jones, Madock Arms; William Morris, masnachydd; a William