Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mhorthmadog ydoedd Mr. Rhys Roberts,—a fu am gyfnod diweddaf ei oes yn swyddog elusenol a chofrestrydd yn Harlech.

Yn fuan wedi hyn, cododd nifer o foneddigesau'r ardal ysgol i'r babanod wrth dalcen yr ysgol, yr hon a brynwyd gan Bwyllgor yr ysgol gyhoeddus, gyda chynhorthwy y Committee of Council, pryd yr aeth yr addysg o dan y drefn Frytanaidd yn gyfangwbl, ac y galwyd yr ysgol yn Tremadoc British School. Cariwyd hi'n mlaen felly am amryw flynyddau, o dan lawer o anhawsderau. O'r diwedd, llesghaodd yr ymdrech a diflannodd y sêl dros addysg, a chauwyd yr ysgol.[1] Yn y cyfamser nid oedd unrhyw fanteision addysg yn y lle ond a gyfrannai'r hen forwr ym Mhen y Cei.

Ymhen ysbaid, dechreuwyd cynnal ysgol yn Ystafell y Neuadd, Tremadog, gan Miss Evans (Mrs. Evans, brazier). Ymhen rhyw gymaint o amser ar ol hyn, ail agorwyd Ysgol Bont Ynys Galch—y tro hwn gan yr Ymneillduwyr yn unig. Ond ni bu ei llwyddiant fawr well na'r troion cynt. Ni roddai'r Ymneillduwyr y gefnogaeth ddyladwy iddi. Yr oedd y gwahanfur enwadol yn rhy uchel iddynt allu edrych drosto, ac ni welai'r mwyafrif o honynt unrhyw werth yn yr athrawon, oni byddent "o'n henwad ni." Yn y flwyddyn 1857, adeiladodd yr Eglwyswyr yr Ysgol Genedlaethol, yn y man cyfleus y saif arno heddyw; a phan agorwyd Ffordd Haearn y Cambrian, yn y flwyddyn 1867, aeth safle'r Ysgol Frytanaidd yn anfanteisiol iddi, gan yr ofnai llawer o rieni anfon eu plant iddi, o herwydd ei hagosrwydd i'r rheilffordd.

Ymhen tua deng mlynedd wedi adeiladu'r Ysgol Genedlaethol, daeth cefnogwyr y Frytanaidd i weled eu bod yn colli yn eu dylanwad wrth aros yn y lle'r oeddynt. Yr oedd cyflwr yr adeilad hefyd yn dirywio, a phenderfynasant, os oeddynt am ddilyn ymlaen gyda'r ysgol, fod yn rhaid iddynt symud i le mwy manteisiol. Penderfynwyd ar y cwrs diweddaf, nid oddiar elyniaeth tuag at yr Ysgol Genedlaethol, ond o herwydd

  1. Yr Herald Gymraeg, Mawrth, 1871.